Bethan Roberts

MSc Rheolaeth, Y Fenni

Llun o Bethan Roberts

"Mae gallu lledu neges dros bedwar ban y byd sy'n cefnogi cydraddoldeb i ferched yn bwysig iawn i mi. Yn ogystal â hyn mae Neges 2021 am fod yn neges bwysig iawn o gofio’r flwyddyn rydyn ni gyd wedi’i chael, felly roedd y siawns i fod yn rhan o’r gwaith yn anhygoel.

"Fe wnes i fwynhau cyfrannu at y Neges yn fawr, roedd hi'n wych gallu cwrdd â siaradwyr Cymraeg eraill a rhannu syniadau am y pwnc. Fel rhywun sydd heb siarad Cymraeg o ddydd i ddydd ers dyddiau ysgol mae wedi gwella fy hyder i gynnal trafodaethau gydag eraill yn Gymraeg.

"Ar ôl i mi orffen fy ngradd meistr dwi am wirfoddoli gydag elusen sy'n helpu menywod mewn angen er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Hoffwn hefyd barhau i gwrdd ar-lein gyda'r grŵp i weithredu’r syniadau rydyn ni wedi eu trafod."

Llun o'r myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn y neges