Mae AABO wedi sefydlu grwpiau darllen mewn lleoliadau cymunedol i annog pobl i ddarllen llyfrau sy’n berthnasol i’r meysydd astudio a gynigir yn AABO. Mae aelodau grŵp yn cael cyfle i drafod y llyfrau gyda phobl o’r un anian. Mae croeso i bawb fynychu’r cyfarfodydd hamddenol a chyfeillgar hyn.
Os hoffech i ni drefnu grŵp darllen yn eich cymuned cysylltwch Ebost
Sylwer, bydd y ddau grŵp yn ailddechrau ym mis Medi 2019
Grŵp Darllen Gwyddoniaeth, Ysbrydolrwydd ac Iechyd. Hwylusydd ~ Ebost
Lleoliad: Llyfrgell Glowyr De Cymru, Campws Hendrefoelan , Ffordd Gwyr, Abertawe, SA2 7NB
Diwrnodau Cyfarfod: Dydd Gwener olaf bob mis, 1.30pm – 3.30pm
Grŵp Darllen Athroniaeth. Hwylusydd ~ Jenni Jenkins
Lleoliad: The Hyst, Stryd Fawr, Abertawe, SA1 1PE
Diwrnodau Cyfarfod: Yr ail dydd Llun o bob mis 1pm – 3pm