Bydd myfyrwyr yn astudio un modiwl gorfodol yn ystod Semester 1 a Semester 2 ac yn dewis un modiwl dewisol yn Semester 1 ac yn Semester 2.
Semester 1: 21/09/2020 - 22/01/2021
Semester 2: 25/01/2021 - 04/06/2021
Cynhelir y modiwlau hyn drwy gyfrwng y Saesneg
Modiwl Gorfodol
Ysgrifennu Academaidd a Datblygu Sgiliau
Mae'r modiwl gorfodol hwn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudio ar lefel radd. Cânt eu hannog i ddatblygu ymagwedd chwilfrydig, strwythuro dadl, ysgrifennu'n academaidd ac osgoi llên-ladrad. Bydd myfyrwyr yn cael cyflwyniad i'r sgiliau astudio y mae eu hangen ar gyfer dysgu llwyddiannus mewn amgylchedd addysg uwch.
Caiff myfyrwyr eu cefnogi i weithio'n annibynnol ac ar y cyd mewn cymuned o ymarfer i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau eu hunain a chefnogi datblygiad eu cymheiriaid.
Modiwlau Dewisol Semester 1 - Dewiswch un
Cyflwyniad i Astudiaethau Llenyddol
Bydd y modiwl hwn yn rhoi sylfaen i fyfyrwyr ym maes astudio llenyddiaeth a beirniadaeth lenyddol. Mae'n cynnig y sgiliau angenrheidiol ar gyfer astudiaeth bellach yn y ddisgyblaeth. Yn ystod y modiwl, byddwn yn trafod sawl genre gwahanol: o ddrama a barddoniaeth i ffuglen, gan ofyn cwestiynau sylfaenol ynghylch cyd-destun, natur a ffurf pob genre, yn ogystal â'r ymateb iddo, drwy gydol ei ddatblygiad. Drwy astudio barddoniaeth, bydd myfyrwyr yn meithrin gwybodaeth sylfaenol am natur y genre, y berthynas rhwng ffurf a chynnwys, yn ogystal â newidiadau ym maes barddoniaeth dros amser. Byddwn yn astudio dramâu o gyfnodau gwahanol ac mewn moddau gwahanol, boed yn drasig neu'n gomig. Wrth astudio'r nofel, byddwn yn ystyried sut y daeth y genre hwn i fod yn flaenllaw yn y byd llenyddol o'r 18fed ganrif a throi'n brif gynnyrch ein llenyddiaeth a'n diwylliant.
Beth yw Hanes?
Celfyddyd amwys yw hanes, ac nid yw'r hyn y mae haneswyr yn ei ddweud nac yn ei ysgrifennu am y gorffennol o angenrheidrwydd yn adlewyrchu'r hyn a ddigwyddodd mewn gwirionedd. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno myfyrwyr i astudio a phortreadu'r gorffennol. Bydd yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr i weithio mewn modiwlau Hanes yn AABO dros gyfnod eu hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd yn cynnig trosolwg o sut mae hanes fel disgyblaeth academaidd wedi newid dros amser. Bydd myfyrwyr yn ystyried y pynciau eang canlynol: sut i ddarllen, meddwl ac ysgrifennu fel hanesydd; sut i fynd ati i ymdrin â ffynonellau sylfaenol ac eilaidd; deall hanesyddiaeth a symudiadau hanesyddiaethol; meddwl yn feirniadol am sut caiff y gorffennol ei ddefnyddio'n gyhoeddus; a myfyrio ar sut bydd astudio hanes yn galluogi myfyrwyr i feithrin sgiliau sy'n berthnasol y tu hwnt i'r ddisgyblaeth ei hun.
Cyflwyniad I Seicoleg yn y Dyniaethau
Bydd y modiwl hwn yn mabwysiadu ymagwedd ymholiad synfyfyriol at ystyr a diben bywyd, yng nghyd-destunau amser a lle. Bydd myfyrwyr yn archwilio amrywiaeth o themâu a safbwyntiau rhyngddisgyblaethol, ar lefel gychwynnol, a fydd yn gosod seiliau ar gyfer astudio pellach yn y maes hynod ddiddorol hwn. Bydd myfyrwyr yn darganfod sut y gall y Celfyddydau a Llenyddiaeth gynnig dealltwriaeth ddyfnach i ni o’r hyn mae’n ei olygu i fod yn ddynol. Byddant yn archwilio amrywiaeth o ffynonellau llenyddol ac yn cymharu’r cynnwys â’r profiad personol.
Cyflwyniad i Gymdeithaseg
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i Gymdeithaseg, gan archwilio prif safbwyntiau damcaniaethol Cymdeithaseg a'i pherthnasedd i'r byd cymdeithasol. Bydd y modiwl yn cynnig dealltwriaeth eang sy'n deillio o ymchwil cymdeithasegol i feysydd megis agweddau ar anghydraddoldeb, troseddu, addysg a/neu'r teulu. Caiff Cymdeithaseg ei hystyried fel "ffordd o weld" drwy archwilio damcaniaeth Cymdeithaseg a fydd yn cynnwys: Ysgolion meddwl ffwythianyddol/cydsyniol, gwrthdaro, rhyngweitheddol, ôl-fodern ac ôl-strwythurol.
Modiwlau Dewisol Semester 2 - Dewiswch un
Diwylliant, Gwleidyddiaeth a Chymdeithas ym Mhrydain wedi’r Rhyfel
Bydd y modiwl hwn yn archwilio newid cymdeithasol a gwleidyddol ym Mhrydain yn y cyfnod ers yr Ail Ryfel Byd. Yn ogystal, bydd yn archwilio newid diwylliannol ym Mhrydain drwy astudiaeth fanwl o destunau llenyddol a ffilmiau allweddol, gan geisio datblygu dealltwriaeth o’r berthynas rhwng datblygiadau cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol. Caiff myfyrwyr eu hannog i archwilio natur unigryw profiad Cymru ers 1945.
Datblygiad a Hunaniaeth Ddynol
Mae'r modiwl hwn yn cynorthwyo myfyrwyr i feithrin dealltwriaeth ragarweiniol o safbwyntiau seicolegol am sut gallai unigolion ddatblygu ar hyd eu hoes. Bydd y modiwl yn archwilio damcaniaeth a llenyddiaeth hanesyddol a chyfredol o fewn prif ddamcaniaethau seicoleg mewn perthynas â safbwyntiau datblygiadol a hyd oes. Bydd myfyrwyr yn beirniadu ac yn cymharu'r safbwyntiau hyn.
Straeon Arswyd: Ysbrydion, Angenfilod ac Ofnau Eraill mewn Diwylliant Llenyddiaeth a Ffilm
Ydych chi erioed wedi gofyn pam y mae nofelau penodol megis Frankenstein neu gerddi megis The Rime of the Ancient Mariner yn parhau i apelio at gynulleidfaoedd mor eang ac i'r beirniaid? Ydych chi'n ystyried pam mae ffilmiau megis The Shining gan Stanley Kubrick yn parhau i godi ofn arnoch hyd yn oed ar ôl eu gweld sawl gwaith?
Beth mae'r 'straeon arswyd' hyn yn ei ddweud wrthym amdanom ni ein hunain a'r byd rydym yn byw ynddo? Ydyn nhw’n taflu goleuni ar bryderon diwylliannol a chyfnodau hanes penodol, neu ydyn nhw’n cynnig dihangdod pur? Sut maent yn procio ein hofnau a'n dyheadau mwyaf cudd, a sut cânt eu mynegi a'u portreadu yn ein diwylliant?
Yn y modiwl hwn, byddwch yn astudio amrywiaeth o destunau llenyddol a sinematig sy'n archwilio'r bydoedd cysgodol a grëir drwy ffigurau ofn, teimladau o ormodaeth a pharanoia, a thestunau sy'n profi terfynau rheswm gan ein gorfodi i ddod wyneb yn wyneb â'r arallfydol.
Troseddu a Chymdeithas
Mae'r modiwl hwn yn darparu cyflwyniad i droseddeg ac mae'n ymdrin â rhai o'r prif safbwyntiau a dadleuon ym meysydd troseddu a gwyriad. Caiff myfyrwyr gyflwyniad i ddadleuon cystadleuol ynghylch sut gellir diffinio troseddu a gwyriad, ymagweddau damcaniaethol gwahanol tuag at ddeall troseddu, patrymau a chyffredinolrwydd ymddygiad troseddol ac erledigaeth, y berthynas rhwng troseddu a ffactorau cymdeithasol megis anghydraddoldeb cymdeithasol, amddifadedd, dosbarth, oedran, rhyw a hil, etc. ac ymatebion cymdeithasol i droseddu a gwyriad.
Darllenwch yr ymwadiad ar: BA (Anrhydedd) Yn Y Dyniaethau (Rhan-amser) 2020-21