Dr Gethin Matthews

My PhD thesis was awarded for a study of the Welsh in the Gold Rushes to British Columbia in the 1860s. I have a broader interest in the history of the Welsh overseas, their interaction with the ‘home’ communities back in Wales and what the development of Welsh communities abroad can tell us about the state of Welsh society at the time.

My current research focuses on the experiences of the Welsh in the First World War, and the profound impact of that conflict on the Welsh psyche. As well as examining how Welsh society and culture was directly affected by the events of 1914-1918, I am interested in the long-term effects of the War upon Wales, and how individual Welshmen who were involved in the fighting tried to make sense of their experiences decades later.

Since 2011 I have been employed as a Coleg Cymraeg Cenedlaethol lecturer in history. I am responsible for the Welsh-medium tuition at Swansea, and I also offer modules to students at the other universities of Wales.

Edrychodd traethawd fy noethuriaeth ar hanes y Cymry yn y Rhuthrau Aur i Golumbia Brydeinig yn y 1860au, ac mae gennyf ddiddordeb ehangach yn hanes y Cymry tramor. Mae hyn yn cynnwys y cysylltiadau a grëwyd rhyngddynt â’r cymunedau a adawyd ar ôl yng Nghymru, a beth gall olrhain datblygiad y cymunedau tramor ein dysgu am gyflwr cymdeithasol Cymru ar y pryd.

Mae fy ymchwil cyfredol yn ymwneud â phrofiadau’r Cymry yn y Rhyfel Mawr, ac â’r creithiau dwfn a adawyd gan y gyflafan honno ar feddylfryd y Cymry. Yn ogystal ag astudio sut effeithiodd digwyddiadau 1914-1918 ar gymdeithas a diwylliant yng Nghymru yn uniongyrchol, mae gen i ddiddordeb yn effeithiau tymor-hir y Rhyfel ar Gymru, a sut y bu i unigolion a oedd ynghlwm â’r ymladd geisio gwneud synnwyr o’u profiadau wrth edrych yn ôl, ddegawdau yn ddiweddarach.

Ers 2011 rwyf wedi dal swydd darlithydd hanes gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae gen i gyfrifoldeb am dysgu hanes trwy gyfrwng y Gymraeg yn Abertawe, ac rwyf hefyd yn cynnig modiwlau i fyfyrwyr ym mhrifysgolion eraill Cymru.

Publications

  1. ‘Miners, Methodists, and Minstrels: The Welsh in the Americas and their Legacy’. In Celts in the Americas. Cape Breton University Press.
  2. ‘‘Sŵn yr ymladd ar ein clyw’: Cyflwyno’r Rhyfel Mawr yn y Gymraeg’. Gwerddon(10/11), 132-157.
  3. Aberthu eu bywyd dros rhyddid eu gwlad’: Agweddau ar ymateb y Cymry i’r Rhyfel Mawr a ddatgelwyd gan brosiect ‘Cymry’r Rhyfel Mawr Ar-lein. Y Traethodydd
  4. “Y Dynion Mwyaf Diniwed ar Wyneb y Greadigaeth” – Y Cymry a Brodorion Columbia Brydeinig. Y Traethodydd, 147-156.

Teaching

  • AHT100 Cymdeithas Cymru Gyfoes

    Os ydych chi am ddeall Cymru'n well, dyma'r modiwl i chi. Byddwn yn canolbwyntio ar amrywiol agweddau ar gymdeithas a diwylliant y genedl yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Cewch flasu pwnc newydd bob wythnos, gan gynnwys llenyddiaethau ac ieithoedd Cymru, y diwydiant cyfryngau, y system gyfreithiol a chysylltiadau Cymru â'r byd. Caiff y darlithoedd eu cyflwyno gan rai o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg gorau'r Brifysgol. Mae'r modiwl cyffrous a phoblogaidd hwn yn rhoi sylfaen gadarn i astudiaethau unrhyw fyfyriwr sydd yn meddu ar ddiddordeb yn y Gymru gyfoes.

  • GEC120 Cymdeithas Cymru Gyfoes

    Os ydych chi am ddeall Cymru'n well, dyma'r modiwl i chi. Byddwn yn canolbwyntio ar amrywiol agweddau o gymdeithas a diwylliant y genedl yn ystod yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain. Cewch flasu pwnc newydd bob wythnos, gan gynnwys llenyddiaethau ac ieithoedd Cymru, y diwydiant cyfryngau, y system gyfreithiol a chysylltiadau Cymru â'r byd. Caiff y darlithoedd eu cyflwyno gan rai o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg gorau'r Brifysgol, ac mae hyn yn gyfle unigryw i gwrdd â darlithwyr o wahanol bynciau. Trwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau gr¿p bach, bydd y modiwl hwn yn rhoi sylfaen gadarn i astudiaethau unrhyw fyfyriwr sydd yn meddu ar ddiddordeb yn y Gymru gyfoes.

  • HI-M80 Directed Reading in History

    Under the guidance of an expert supervisor, students analyse developments in research and historiography relating to a topic in History which they choose from a wide range of options.

  • HIH122 Making History

    History is an imprecise art and what historians say and write about the past is not the same as what actually happened in the past. Most people's knowledge about the past doesn't come from professional historians at all but rather from 'public history'. Public history is the collective understandings of the past that exist outside academic discipline of history. It is derived from a diverse range of sources including oral traditions, legends, literature, art, films and television. This module will introduce you to the study and presentation of the past. It will consider how the content, aims and methods of academic and public history compare and contrast and you will engage in your own small research project to investigate this. The module will also teach you about the fundamentals of studying and writing history at university. You will learn about essay writing, group work and critical analysis and employ these skills to understand and assess history today, both as an academic activity and as public knowledge.

  • HIH200W Concror Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc

    Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ledaenodd ymerodraethau Prydain a Ffrainc (a gwledydd eraill Ewrop) ar draws y byd. Erbyn dechrau¿r Rhyfel Mawr roedd y rhan fwyaf o wledydd y byd yn rhan o ymerodraeth Ewropeaidd. I drigolion y gwledydd a feddai ar ymerodraeth (ac yn bennaf Prydain a Ffrainc) roedd mawredd eu hymerodraeth yn achos balchder, ac yn rhan bwysig o¿u hunaniaeth. Fodd bynnag, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif fe ddatgymalwyd yr ymerodraethau mawr Ewropeaidd, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer cymdeithas a diwylliant ym Mhrydain a Ffrainc. Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut y treiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut yr oedd pobloedd `eraill¿ yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio¿r cyfnod wedi¿r Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o¿r syniadau a ddaeth yn eu sgil yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-Tseina ac Algeria.

  • HIH237 The Practice of History

    The purpose of the module is to encourage you to think more deeply about how historians work and, in particular, about how we as historians can locate and use primary historical sources effectively as a means of interpreting and understanding the past. During the module we will learn about the survival of historical evidence, how it is organised and made accessible to historians to undertake their research, and how to effectively locate and interpret it in your studies. We will consider how the process of doing historical research changes over time, in particular with the impact of recent developments like digitization. At the core of the module will be the work you undertake with others in your seminar group using a range of primary sources which your seminar tutor will introduce to you. As part of the module assessment you will also undertake your own primary source based research project using items from these collections. The module is designed strengthen your analytical skills and to help prepare you for the more extensive uses of primary evidence which you will encounter in final year special subjects and dissertation.

  • HIH272W Credoau'r Cymry: Astudio Athroniaeth ac Athrawiaeth Gymreig o Safbwynt Rhyngwladol

    Cyflwyniad i syniadau rhai o ffigyrau mwyaf adnabyddus yn hanes Cymru yw hanfod y modiwl hwn. Fe fydd myfyrwyr yn cael y cyfle i astudio unigolion megis Glyndwr, Robert Owen, Aneurin Bevan a Gwynfor Evans. Mae¿n cynnig i fyfyrwyr dealltwriaeth o rai o¿u hegwyddorion a chysyniadau craidd. Dadansoddir yr athroniaethau mewn cyd-destun rhyngwladol, gan ystyried eu cysylltiadau gyda digwyddiadau a syniadau ehangach yr oes. Trwy fabwysiadu¿r safbwynt yma, ceir cyfle nid yn unig i ymgyfarwyddo â syniadau cynhenid Cymreig, ond hefyd dod i ddeall hanfodion ysgolion o feddwl ehangach megis sosialaeth, cenedlaetholdeb a heddychiaeth.

  • HIH300W Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc

    Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg fe ledaenodd ymerodraethau Prydain a Ffrainc (a gwledydd eraill Ewrop) ar draws y byd. Erbyn dechrau¿r Rhyfel Mawr roedd y rhan fwyaf o wledydd y byd yn rhan o ymerodraeth Ewropeaidd. I drigolion y gwledydd a feddai ar ymerodraeth (ac yn bennaf Prydain a Ffrainc) roedd mawredd eu hymerodraeth yn achos balchder, ac yn rhan bwysig o¿u hunaniaeth. Fodd bynnag, yn ail hanner yr ugeinfed ganrif fe ddatgymalwyd yr ymerodraethau mawr Ewropeaidd, gyda chanlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer cymdeithas a diwylliant ym Mhrydain a Ffrainc. Bydd y modiwl hwn yn archwilio effeithiau oes yr ymerodraethau ar gymdeithas a diwylliant yn Ffrainc a Phrydain (ac yng Nghymru yn benodol). Byddwn yn ystyried sut y treiddiodd syniadau ymerodraethol trwy gydol diwylliant y gwledydd hyn, gan edrych er enghraifft ar sut yr oedd pobloedd `eraill¿ yn cael eu portreadu mewn cyhoeddiadau Cymraeg. Yna byddwn yn archwilio¿r cyfnod wedi¿r Ail Ryfel Byd pan chwalwyd yr ymerodraethau, er bod rhai o¿r syniadau a ddaeth yn eu sgil yn parhau. Felly byddwn yn olrhain tranc poenus yr Ymerodraeth Ffrengig yn Indo-Tseina ac Algeria.

  • HIH303W Y Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cymry

    Bydd 'Y Rhyfel Mawr trwy lygaid y Cymry' yn cynnig arolwg eang o ddylanwad y Rhyfel Mawr ar bobl Cymru, ac ar ddiwylliant Cymreig a Chymraeg. Ni fydd yr astudiaeth yn cyfyngu ei hunan i ddigwyddiadau 1914-18, ond yn hytrach bydd yn trafod y cyfnod o 1880 i'r presennol. Byddwn yn cychwyn trwy edrych ar sut oedd y Cymry yn edrych ar eu safle yn y byd yn y degawdau cyn y Rhyfel, ac yn ystyried effaith yr ymladd ar feddylfryd y Cymry ar y pryd, ac yn y degawdau ers y cadoediad. Wrth astudio sut mae'r Rhyfel wedi cael ei bortreadu a'i gofio yn y Gymraeg byddwn yn dadansoddi sut mae¿r newidiadau yn y coffáu yn adlewyrchu¿r sefyllfa g yfredol yng Nghymru.

  • HIH3300 History Dissertation

    The History dissertation is a free-standing, 40-credit module that runs across both semesters of Level Three. Candidates conduct research upon a subject of their choice, devised in consultation with a member of staff teaching for the degrees in History, and concerning a topic that falls within staff research and teaching interests.

  • HIHD00 Heritage Dissertation (Practice-Based)

    This module affords students the opportunity to complete their MA in Heritage by undertaking a practical heritage project. The project, worth 67% of the marks, may be undertaken independently, or via a placement with a heritage project or organisation. It will be accompanied by a reflective commentary worth 33% of the marks.

  • HIHM04 Heritage Work Placement

    This module enables students to gain practical experience of working with a heritage organisation or project in a graduate-level role. Placements may involve the acquisition of skills in museum work, community projects, heritage interpretation and policy (but are not restricted to these areas). Group discussion and individual tutorials will support students in preparing an extended essay reflecting on their work experience in the context of literature on heritage and public history.

  • ML-104W Hanes a Diwylliant Ewropeaidd

    Mae¿r modiwl hwn yn fodiwl perffaith ar gyfer myfyrwyr y Celfyddydau ar ddechrau eu gyrfa academaidd. Mae¿n archwilio newidiadau allweddol yn hanes, syniadaeth a diwylliant Ewrop o 1789 i¿r cyfnod modern. Serch hynny, nid modiwl hanesyddol yn unig yw hwn. Fe gewch amlinelliad o hanes a datblygiad Ewrop yn gyffredinol, ond fe¿ch anogir i ddadansoddi diwylliant Ewropeaidd a pherthnasedd cyfnodau hanesyddol pwysig i¿r datblygiad hwnnw. Mae¿r modiwl yn darparu sail hollbwysig er mwyn i chi allu astudio diwylliant a hanes gwledydd Ewrop mewn dyfnder a manylder a byddwn yn cyfeirio at ystod eang o ffurfiau diwylliannol: llenyddiaeth, celf, delweddau a ffilm. Mae¿r modiwl yn cynnig arolwg o fudiadau allweddol yn syniadaeth a diwylliant Ewrop, yn ogystal â digwyddiadau hollbwysig `Ewropeaidd¿ sydd hefyd yn cyfrannu¿n sylweddol at hanes y byd: Chwyldroadau gwleidyddol y 19eg Ganrif, y Chwyldro Diwydiannol, Twf Cenedlaetholdeb, Syniadau newydd fel Sosialaeth a Chomiwnyddiaeth, Twf Ffasgaeth, y ddau Ryfel Byd, er enghraifft. Yn ystod hanner cyntaf y cwrs, fe fyddwn yn canolbwyntio ar y 18fed a¿r 19eg Ganrif, ac yn dysgu am gyd-destun hanesyddol a chymdeithasol Ewrop ar drothwy¿r Oes Fodern. Edrychwn ar Oes Oleuedig, a¿r 19eg ganrif a¿r Oes Ramantaidd. Mae¿r ail dymor yn canolbwyntio ar yr ugeinfed ganrif a hyd at y presennol.

  • MS-106 Contemporary Welsh Society

    This innovative module presents a contemporary picture of modern Wales. It focuses on various aspects of Welsh society during the twentieth and twenty-first centuries. Through a series of varied teaching sessions presented by active researchers, this module provides a firm theoretical foundation to any student interested in current Welsh society and culture.

Supervision

  • Astudiaeth o’r Wasg Gymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. (current)

    Student name:
    PhD
    Other supervisor: Mr Robert Rhys
  • Delweddu Cymru a'r rhyfel Mawr: Portreadau o Gymru a'r Cymry mewn rhaglenni dogfen am y Rhyfel Byd Cyntaf, ac effeithlonrwydd y genre dogfen wrth gyfleu effaith y Rhyfel ar gymunedau yng Nghymru ac ym Mhrydain. (current)

    Student name:
    PhD
    Other supervisor: Dr Elain Price

Latest

I have edited a volume of essays entitled Creithiau (‘Scars’), to be published by the University of Wales Press in 2016. I am also Principal Investigator on the ‘Welsh Memorials to the Great War’ project, funded by the Living Legacies 1914-1918 Engagement Centre, which will research the diverse range of ‘unofficial’ memorials to the War in Wales and share the information via a database.

Rwyf wedi golygu cyfrol o’r enw Creithiau: Dylanwad y Rhyfel Mawr ar Gymdeithas a Diwylliant yng Nghymru, a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2016. Yr wyf hefyd yn arwain prosiect ‘Welsh Memorials to the Great War’, o dan nawdd y Living Legacies 1914-1918 Engagement Centre. Bydd y prosiect yn ymchwilio i’r ystod eang o gofebau ‘answyddogol’ i’r Rhyfel a welir ar draws Cymru, gan adeiladu bas-data i rannu’r wybodaeth.