Swansea University - KTPAwardWelsh

Prifysgol Abertawe yn cipio Gwobr Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth 2010

Bu academyddion Prifysgol Abertawe yn dathlu ar Ionawr 28 2010 ar ôl ennill Partneriaeth KTP Orau Cymru (KTP) ar gyfer eu prosiectau ar y cyd gyda’r cwmni adeiladu Laing O’Rourke Plc.

Roedd y seremoni wobrwyo flynyddol, a gynhaliwyd yn Stadiwm Liberty, yn amlygu llwyddiant y KTP - partneriaethau rhwng prifysgolion a busnesau, lle bo myfyriwr â gradd -  yn cael ei benodi i weithio i fusnes ar brosiect strategol , gyda chefnogaeth arbenigol y brifysgol.


Caiff y Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth ei reoli a noddi’n rhannol  yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n ffurfio rhan o raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B).


Daeth Laing O’Rourke, un o gwmnïau adeiladu preifat mwyaf Prydain, at Brifysgol Abertawe yn 2007 gyda’r syniad o gynnal tri KTP ar yr un pryd - er mwyn uchafu’r effaith, gwneud arbedion effeithiolrwydd a chynnydd technolegol. Byddai lleihau’r gwastraff a chynyddu’r adnoddau effeithlon yn arbed degau ar filoedd o bunnoedd i’r cwmni bob blwyddyn.


Dywedodd Dr Jarmila Davies, Rheolwr Rhaglenni Technoleg ar gyfer Llywodraeth Cynulliad Cymru am y prosiect: “Mae’n ganlyniad ffantastig i weld fod prosiect cymhleth KTP wedi derbyn cymaint o gydnabyddiaeth.


“Mae’r bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe  â Laing O’Rourke yn haeddu’r gydnabyddiaeth am eu holl waith ar y prosiectau a’r canlyniadau arloesol ac effeithlon a ddaeth yn sgil hyn.


“Mae’r canlyniadau yma yn profi fod cydweithio rhwng Addysg Uwch a Diwydiant yn dod a gwir fantais i’r economi. Bydd y bartneriaeth Gymreig hon yn mynd i mewn yn awtomatig i’r gwobrau KTP cenedlaethol ar gyfer y prosiect KTP orau yn 2010.”


Roedd y prosiect cyntaf yn canolbwyntio ar leihau gwastraff, gan ddarganfod gwir bris y deunyddiau a’r llafur a wastraffwyd, ac yn ymdrin â’r rhain drwy ddiddymu gwastraff yn y broses gynllunio ar y cychwyn, gwrthdroi logisteg, dod o hyd i ffyrdd o gynyddu effeithlonrwydd adnoddau ac ail ddefnyddio adeiladwaith plastig mewn cynhyrchion newydd.


Roedd yr ail brosiect yn canolbwyntio ar fiometreg - a arweiniodd at adnabyddiaeth o dechnoleg gwythïen bys a dyfais integredig gwbl newydd, tra bod y trydydd prosiect wedi arwain at ddarganfod atebion i ddefnyddio Adnabyddiaeth Amledd Radio (RFID) wrth reoli gweithlu symudol ar gyfer diweddariad amser real ar leoliad.


Dywedodd Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, Richard B Davies, a dderbyniodd y wobr yn y digwyddiad am y prosiectau.”Rwy’n falch ac wrth fy modd fod gwaith Prifysgol Abertawe wedi cael ei gydnabod gan wobr mor fawreddog.


“Sefydlwyd Prifysgol Abertawe ar gais diwydiant yn 1920 ac rydym bob amser yn gartrefol yn cydweithio’n agos â diwydiant. Mae’r wobr hon yn dangos fod gennym arbenigedd o’r lefel uchaf i helpu datblygu economi wybodaeth gyfoes ac arloesol a’r ymrwymiad i gefnogi’r gwaith o hybu cyfoeth.”


Dywedodd Ceri Jones, Dirprwy Bennaeth Adran Ymchwil ac Arloesiad Prifysgol Abertawe, a fu’n rhan o gefnogi’r cais ar gyfer y prosiectau, :  “Mae llwyddiant y Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth wedi bod yn wych, ac mae pawb a fu’n gweithio ar y prosiect wedi elwa’n sylweddol  - cyn fyfyrwyr yn ennill profiad a gwaith, y Brifysgol yn ennill gwybodaeth a mewnwelediad i’r diwydiant adeiladu er mwyn adborthi i’w hymchwil a’i dysgu, a’r cwmni yn elwa drwy welliannau effeithlon a chynnydd mewn trosiant.


“Gyda’r holl fanteision hynny, gobeithiwn y bydd mwy o fusnesau a sefydliadau yng Nghymru yn gweld  manteision rhaglen KTP, ac y byddwn yn medru parhau i gydweithio a hybu’r economi wybodaeth yng Nghymru.”