Yr wythnos diwethaf (23 Chwefror 2010) lansiodd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor rwydwaith newydd sy’n rhoi mynediad i fusnesau i arbenigwyr prifysgol a llwyfan i ddatblygu cyfleoedd i fasnachu ar raddfa fyd-eang gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor (23 Chwefror 2010).
Yn dilyn y lansiad brecwast yng Ngwesty’r Village, Abertawe, roedd un busnes, ASAHI Photoproducts Ltd, yn croesawu’r cyfle i ymuno â Chyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW). Dywedodd Mr David Galton, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, a fu’n siarad yn y digwyddiad (llun isod, chwith):
“Mae ASAHI wedi datblygu perthynas gyda Phrifysgol Abertawe dros gyfnod o 15 mlynedd – sy’n dweud y cyfan fod y cwsmer yma yn gwbl hapus ac yn dymuno rhoi rhagor o fusnes i’r Brifysgol
“Yn dilyn effeithiau’r dirwasgiad byd-eang, mae angen gwella cynhyrchiant, mabwysiadu defnyddiau newydd a lleihau’r effaith amgylcheddol. Gellir ond cyflawni hyn drwy gyfrwng gwyddoniaeth. Mae’ Canolfan Argraffu a Chaenu Cymru, ym Mhrifysgol Abertawe yn unigryw, ac rydym wedi cydweithio â nhw yn helaeth - mae ganddynt enw da am ddatblygu gwyddoniaeth greiddiol berthnasol a bod yn barod i drosglwyddo hyn i fyd diwydiant. Rydym wedi elwa yn fawr o hyn. Mae manteision y cysylltiadau a’r cydweithio yma yn amhrisiadwy.
“Bydd Cyfnewid Gwybodaeth Cymru yn mynd i’r afael â mater yr wyf wedi bod yn ymwybodol ohono drwy gydol perthynas ASAHI gyda’r Brifysgol - mae eu sgiliau ymchwil gwyddonol a throsglwyddo technoleg yn arbennig , ond maent yn eu cuddio. Efallai drwy gyfrwng Cyfnewid Gwybodaeth Cymru a Global CONNECT, bydd y prifysgolion dan sylw yn llwyddo i greu argraff fyd-eang.”
Cyfnewid Gwybodaeth Cymru yw’r cyntaf a’r unig rwydwaith busnes Cymreig i fod yn aelod o’r rhwydwaith busnes arloesi a buddsoddiad byd-eang rhyngwladol enwog Global CONNECT, a’r cyntaf i uno gogledd a de Cymru, gyda’r bwriad o dynnu sylw at ddiwydiant Cymreig a’r byd academaidd.
Dywedodd Ceri Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Adran Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Abertawe (llun isod ar y dde), a arweiniodd y rhwydwaith:
“Bydd KEW yn anelu at uno academyddion a busnesau a sefydliadau yng Nghymru, gan hybu’r economi leol ac yn caniatáu i Gymru fasnachu ar lefel fyd-eang.
“Gwyddom fod sgiliau o fewn y ddwy brifysgol i helpu busnesau i ddatblygu, cynyddu a chystadlu yn fyd-eang, ac rydym am dyfu gydag economi Cymru.
“Mae’n hamcanion yn uchel. Rydym yn gobeithio y bydd Cyfnewid Gwybodaeth Cymru yn un o’r rhwydweithiau busnes mwyaf yng Nghymru”.
Mae’r bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor yn un cryf ac yn sicrhau fod pecyn sylweddol o sgiliau ac arbenigedd yn cael ei gynnig i fusnesau ar draws Cymru. Ffaith a nodwyd gan dîm Arbenigedd Academaidd i Fusnesau Llywodraeth Cynulliad Cymru cyn ariannu’r prosiect.
Dywedodd Lesley Griffiths, Dirprwy Weinidog dros Wyddoniaeth, Arloesi a Sgiliau, y byddai’r rhwydwaith yn annog mwy o gydweithio rhwng diwydiant ac academia
“Bydd y manteision yn ddeublyg. Bydd yn galluogi academyddion i ddeall yn well gofynion y diwydiant a helpu diwydiant i adnabod yr arbenigedd sydd ar gael sy’n gallu gwneud cryn wahaniaeth i fusnesau a chaniatáu iddynt dyfu a chystadlu’n llwyddiannus yn mewn marchnad fyd-eang.”
Mae gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Bangor ar y cyd nifer o’r arbenigeddau allweddol sydd eu hangen gan fusnesau a chofnod nodedig o gydweithio gyda diwydiant.
Mae rhwydwaith KEW yn agored bob busnes sydd â diddordeb i ddatblygu eu busnes a dysgu mwy am yr hyn sydd gan brifysgolion i’w gynnig i fusnesau.
Ceir rhaglen o ddigwyddiadau sydd i ddod gan KEW dros y flwyddyn nesaf ar www.kewales.com