Swansea University - 606060Welsh

Y Brifysgol yn newid trefn i fusnesau ar gyfer 2010

Mae rhif ffôn arbennig wedi ei sefydlu yn uniongyrchol ar gyfer busnesau a sefydliadau i gysylltu â Phrifysgol Abertawe i helpu datblygu’r cysylltiadau rhwng y brifysgol a byd diwydiant.

Sefydlwyd 01792 606060, gan yr Adran Ymchwil ac Arloesi o fewn y Brifysgol gyda’r bwriad o helpu busnesau a sefydliadau i gysylltu ag arbenigwr i ddatrys problem neu gynorthwyo  gyda chyfle a ddaeth i law yn y gweithlu.


Gall busnesau alw’r rhif ffôn rhwng 8.30am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener, i drafod ymchwil, datblygiad ac anghenion chymorth technegol, nodi cymorth busnes neu gyfleoedd ariannu, gan gynnwys dod o hyd i ac ymuno â rhwydweithiau busnes-prifysgol, a chael mynediad i adnoddau arbenigol o fewn y Brifysgol.


Galwad busnes: Ysgrifenyddes yr Adran, Victoria Hurst, yn derbyn galwad ar 01792 606060.


Mae’r rhif hefyd yn adnodd gwerthfawr ar gyfer y rheini sydd â chwestiynau ynghylch sut i recriwtio graddedigion, ac i’r rheini sy’n cychwyn eu busnes ac yn chwilio am le i’w busnes ddeor.


Mae Ceri Jones, Dirprwy Bennaeth yr Adran Ymchwil ac Arloesi yn esbonio pam fod 01792 606060 mor bwysig i’r Brifysgol ac i ddiwydiant yng Nghymru:


“Mae cael rhif ffôn uniongyrchol i fusnesau a sefydliadau i gysylltu â’r Brifysgol yn ychwanegiad yr oedd mawr ei hangen at y gwasanaethau a gynigir gan y Brifysgol.


 “Yn ystod y blynyddoedd diwethaf  mae’r Llywodraeth wedi galw am gydweithio mwy effeithiol rhwng addysg a diwydiant ac mae’r bartneriaeth hon yn allweddol wrth adeiladu economi wybodaeth fwy a gwell ar gyfer Cymru. Bydd 01792 606060 yn ehangu’r mynediad i arbenigedd, adnoddau a chyfleusterau’r Brifysgol - a bydd ein staff arbenigol yn sicrhau y bydd pobl sy’n ffonio yn cael yr help sydd ei angen arnynt.


“Mae’r Adran Ymchwil ac Arloesi mewn lle da i ymdrin â’r galwadau yma , gan ei fod yn ganolog i’r cydweithio rhwng y brifysgol a diwydiant sy’n cynnwys Partneriaeth Arloesi’r Ddraig , sef partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe, Prifysgol Fetropolitan Abertawe a Choleg  y Drindod sy’n anelu at helpu busnesau a sefydliadau i ddod i gysylltiad ag arbenigwyr perthnasol ar gyfer eu hanghenion cefnogaeth, datblygiad a dysg; yn ogystal â’r rhwydwaith busnes newydd sbon , Partneriaeth Cyfnewid Gwybodaeth sy’n cael ei lansio yn swyddogol yn Chwefror 2010, yr unig rwydwaith busnes yng Nghymru sy’n aelod o’r rhwydwaith busnes Global Connect a gymeradwywyd yn rhyngwladol.


“Rydym yn gobeithio y bydd 2010 yn flwyddyn i Brifysgol Abertawe amlygu’r cydweithio rhwng prifysgol a diwydiant yng Nghymru, a bydd 01792 606060 yn fodd i wneud hynny."