(For English version, please scroll to the bottom of the page)
Roedd Hywel Teifi Edwards yn gyn Athro'r Gymraeg ac yn Bennaeth yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, lle bu’n arbenigwr yn hanes y 19eg Ganrif a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Roedd yn awdur sawl llyfr yn ymwneud â Chymru yn yr oes Fictoraidd, ac fe olygodd ddeg cyfrol o lyfrau yn ymwneud â’r Cymoedd Cymreig yng nghyfres ‘Cyfres y Cymoedd’. Cyhoeddwyd y gyfrol ddiweddaraf, The National Pageant of Wales, yn 2009.
Roedd yr Athro Edwards yn Gymro balch a bu’n aelod blaengar mewn sawl ymgyrch i ddiogelu dyfodol yr iaith Gymraeg. Bu hefyd yn ymgeisydd seneddol i Blaid Cymru ar ddau achlysur.
Dywedodd Yr Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Roedd Hywel Teifi Edwards yn ddyn a oedd yn sefyll am Gymru a phopeth Cymreig. Roedd ei frwdfrydedd angerddol am ei waith yn edmygol a dylanwadol i bawb, nid yn unig yn y Brifysgol ond ar draws Gymru. Byddai pob un a oedd yn cwrdd â fe wedi’i swyno gan ei bersonoliaeth gynnes a’i argyhoeddiad ac ymrwymiad personol cryf. Roedd ganddo’r gallu i wneud i bawb a fyddai’n siarad â fe i deimlo fel petaent yn bwysig iddo.
Roedd Hywel Teifi Edwards yn academydd o fri uchel ond nid oedd yn byw mewn twr ifori. Roedd e’n byw ymhlith pobl Cymru. Bydd cenedlaethau o fyfyrwyr, cydweithwyr a ffrindiau ym Mhrifysgol Abertawe yn ei golli’n fawr. Rhoddaf fy nghydymdeimlad dwys i’w wraig a’i deulu”.
Cafodd yr Athro Edwards ei eni a’i fagu yn Llanddewi Aberarth, Sir Geredigion. Bu’n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dechrau ei yrfa academaidd ei hun.
Bu farw’r Athro Edwards yn Hosbis Ty Bryngwyn yn Llanelli nos Lun (4 Ionawr) yn dilyn salwch byr. Mae’n gadael ei wraig Aerona a’i ddau blentyn.
Cofio Yr Athro Hywel Teifi Edwards
"Dyn cwbl ryfeddol ac unigryw ymhlith ysgolheigion y Brifysgol." Dyna farn yr Athro Prys Morgan am ei gyn-gydweithiwr a'i gyfaill, yr Athro Hywel Teifi Edwards a fu farw yn 75 oed.
"Yn wahanol i nifer , roedd wedi dod at y Brifysgol o fod yn athro ysgol, ac felly wedi dysgu sut i genhadu, sut i ennill teyrngarwch a diddordeb ei gynulleidfa."
Mae'r Athro Morgan yn cofio Hywel Teifi Edwards yn darlithio am awr a hanner "heb nodyn o'i flaen - dawn a oedd yn ei osod ar wahan. Er yn ysgolhaig roedd hefyd yn hapus i fod yn arweinydd cymanfa ganu neu'n cael sgwrs am bel-droed yn y bar. Roedd yn gallu pontio byd y brifysgol a'r byd y tu allan mewn ffordd brin iawn.
"Roedd yn ysgolhaig Celtaidd oedd hefyd yn hanesydd, gan ei fod yn credu ar hyd ei oes mai'r hyn oedd yn bwysig oedd nid yn unig ymwneud â'r clasuron, ond hefyd dehongli diwylliant a hanes Cymru. Roedd coridorau'r Adran Hanes a'r Adran Gymraeg ar yr un llawr a dwi'n cofio cael sgyrsiau hir a bywiog ar y ffordd lawr o Adeilad Callaghan i'r maes parcio - ffrwyth un o'r sgyrsiau hynny oedd penderfynu bod angen ysgrifennu cyfrol boblogaidd ar Frad y Llyfrau Gleision."
Yn ol yr Athro Morgan, roedd gan Hywel Teifi Edwards gred angerddol "ym mhwysigwydd cyfraniad yr unigolyn gwerinol" a oedd yn deillio'n rhannol o'i brofiad gyda'r Adran Addysg Oedolion. Mae modd yn hynny o beth, meddai, i'w gymharu a ffigwr fel Raymond Williams. Tra roedd ei ymrwymiad gwleidyddol a'i barodrwydd i wasanaethu ei fro fel cynghorydd "yn codi o'r ffaith ei fod yn credu bod y Gymraeg ers y 1840au mewn argyfwng , - ac yn hynny o beth roedd yn ymdebygu i Saunders Lewis. Credai bod dyletswydd ar y Cymro cydwybodol i gefnogi pob sefydliad Cymreig a Chymraeg. Dyna pam roedd mor gefnogol o'r Eisteddfod a'r Orsedd - yn groes i'r traddodiad cryf yn erbyn yr Orsedd a fodolai yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe gyda ffigyrau fel Henry Lewis a Saunders Lewis."
"Mae'r adran Gymraeg yn Abertawe wedi gwneud cyfraniad rhyfeddol i'n diwylliant ac i fywyd ysgolheigaidd y genedl. Roedd Hywel yn perthyn i genhedlaeth newydd oedd am ail ddehongli y diwylliant Cymraeg, ac yn credu bod angen cyflwyno hanes y wlad i'r Cymry."
Soniodd yr Athro Hywel Francis, Aelod Seneddol Aberafan a chyn gydweithiwr yn yr Adran Addysg Oedolion, am y pleser a gafodd Hywel Teifi Edwards yn ei waith yn yr adran honno, yn enwedig o fewn cymunedau gwledig a threfol ehangach y De Orllewin - o Drefach i Gwmllynfell. "Roedd Hywel yn arbennig o falch o'r dosbarth Llenyddiaeth Gymraeg a gynhaliodd yng Nghwmllynfell," meddai, "gan ei fod yn barhad o'r dosbarth a sefydlwyd gan Saunders Lewis yno flynyddoedd ynghynt."
Bydd cof ym Mhrifysgol Abertawe felly am ysgolhaig neilltuol, a weithiodd yn ddiflino dros ei adran, ei brifysgol a'i genedl.
Professor Hywel Teifi Edwards
Hywel Teifi Edwards was formerly Professor of Welsh and Head of the Department of Welsh at Swansea University, where he specialised in 19th Century history and the National Eisteddfod.
He authored several books about Wales in the Victorian age, and edited ten volumes in the Cyfres y Cymoedd series of books about the Welsh Valleys. The latest volume, The National Pageant of Wales, was published in 2009.
Professor Edwards had a passion for Wales and took a lead in several campaigns to safeguard the future of the Welsh language. He was also a parliamentary candidate for Plaid Cymru on two occasions.
Professor Richard B Davies, Vice-Chancellor of Swansea University, said: “Hywel Teifi Edwards was a man who stood for Wales and all things Welsh. His passionate enthusiasm for his work was infectious and inspirational to all, not just in the University but across Wales. No one who met him could fail to be charmed by his warm effervescent personality and his strong personal conviction and commitment. He had the ability to make anyone to whom he spoke feel that they were important to him.
Hywel Teifi Edwards was a highly respected academic but he did not live in an ivory tower. He lived amongst the people of Wales. He will be greatly missed by generations of students, colleagues, and friends at Swansea University. I send my most sincere condolences to his wife and family.”
Born and raised in Llanddewi Aberarth, Cardiganshire, Professor Edwards studied at Aberystwyth University before embarking on his own academic career.
Professor Edwards died at the Bryngwyn House Hospice in Llanelli on Monday evening (4 January) after a short illness. He is survived by his wife, Aerona and his two children.

