Gwna'r Cyfryngau yn Gymraeg

Ym Mhrifysgol Abertawe, fe gei di gyflwyniad deinamig a bywiog i fyd cyffrous y cyfryngau - a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rydyn ni'n cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau yn yr iaith, sy'n cyfuno astudiaeth academaidd gyda gwaith ymarferol proffesiynol wedi'i ddysgu gan arbenigwyr yn eu pwnc. 

Dyma'n arlwy Cymraeg ar hyn o bryd. Rydym yn datblygu modiwlau newydd yn gyson.

Pam astudio'n Gymraeg?

Mae myfyrwyr a chyflogwyr Cymraeg fel ei gilydd yn sôn am fanteision addysg ddwyieithog ar lefel prifysgol. Yn y cyfryngau'n arbennig, bydd medru arddangos eich sgiliau yn Gymraeg a Saesneg i gyflogwyr yn y diwydiant o fantais fawr iawn i chi. Pa ffordd well i wneud hyn na dangos eich bod chi wedi creu fideo, datblygu gwefan, a dysgu am hanes a theori ffilm, teledu, newyddion a'r we yn Gymraeg?

Os am wybod mwy ynglyn a manteision addysg prifysgol Cymraeg yn gyffredinol, ymwelwch â gwefan Mantais.

Lefel 1 (blwyddyn gyntaf)

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae disgwyl i fyfyrwyr astudio modiwlau gwerth 120 credyd bob blwyddyn. Ym mlwyddyn gyntaf y Cyfryngau, mae posib gwneud 100 o'r credydau hynny yn Gymraeg.


MSW100: Hanes Darlledu (20 credyd) 

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyflwyniad i fyd darlledu gan ganolbwyntio ar ddau o gyfryngau mwyaf blaenllaw a dylanwadol yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain - radio a theledu. Bydd y modiwl yn olrhain hanes twf y cyfryngau hyn ym Mhrydain ac America, edrychir ar waith a chyfraniadau rhai o brif sefydliadau’r diwydiannau hyn, a cheir cyfle i astudio rhai o genres rhaglenni mwyaf allweddol radio a theledu. Yn ogystal rhoddir sylw manwl i ddylanwad cyfryngau newydd a goblygiadau’r oes ddigidol ar ddyfodol y cyfryngau hyn.

Tiwtoriaid: Elain Price, Dr Rhys Jones

MSW101: Hanes a Theori Ffilm (20 credyd) 

Nod y modiwl hwn yw rhoi cyflwyniad i un o gyfryngau mwyaf dylanwadol a phoblogaidd ein hoes, sef ffilm. Trwy gyfrwng dadansoddiad o gynyrchiadau penodol bydd y modiwl yn ymdrin â hanes, rhai o syniadau, traddodiadau a ffurfiau y cyfrwng hwn.

Tiwtoriaid: Dr Gwenno Ffrancon, Elain Price

MSW102: Cymdeithas Cymru Gyfoes (20 credyd) 

Dyma fodiwl blaengar sy’n cynnig darlun cyfoes o’r Gymru Fodern. Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar amrywiol agweddau ar gymdeithas Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Trwy gyfrwng darlithoedd a seminarau a gaiff eu cyflwyno gan rai o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg gorau y Brifysgol, bydd y fodiwl cyffrous hwn yn rhoi sylfaen gadarn i astudiaethau unrhyw fyfyriwr sydd â diddordeb yn y Gymru gyfoes.

Tiwtor: Dr Rhys Jones - gyda darlithwyr amrywiol o sawl adran yn y Brifysgol

MSW103: Cyflwyniad i Dechnoleg Ddigidol (20 credyd) 

Mae'r modiwl cyfoes a blaengar hwn yn egluro sut mae technolegau allweddol yn y maes technoleg ddigidol yn gweithredu, ac yn bwrw golwg ar eu hanes a’u dylanwad. Mae'n cyflwyno hanfodion cyfathrebu digidol gan amlinellu ystod eang o dechnolegau’r maes, gan gynnwys cerddoriaeth, teledu a radio digidol, a thechnoleg y Rhyngrwyd.

Tiwtoriaid: Dr Rhys Jones, Elain Price

DAC115 a DAC116: Sgiliau (20 credyd gyda'i gilydd) 

Prif bwrpas y modiwlau hyn yw codi hyder myfyrwyr yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig). Rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu sgiliau ieithyddol craidd ar gyfer anghenion addysg prifysgol, a sgiliau pellach er mwyn gwella traethodau academaidd. Bydd rhain yn datblygu sgiliau pob myfyriwr, yn enwedig y sgiliau hynny ar gyfer astudio’r cyfryngau. Dyma fodiwlau y dylai pob myfyriwr blwyddyn gyntaf ei gymryd.

Tiwtor: Steve Morris

Lefel 2 (ail flwyddyn)

MSW200: Sgiliau Cyfryngau Ymarferol (20 credyd) 


Mae’r modiwl yn gosod sylfaen i fyfyrwyr fedru dewis modiwlau ymarferol mwy arbenigol ar lefel 3. Mae hwn yn fodiwl sy’n cyflwyno ystod eang o sgiliau yn y cyfryngau ymarferol, hynny yw, trin delweddau digidol, technegau meddwl yn greadigol, cyflwyniad i fideo digidol, HTML, trin cynnwys gyda blogiau a wikis, ac ystyriaethau defnyddioldeb safleoedd gwe.

Tiwtoriaid: Peter Jones, Dr Rhys Jones

MSW201: Creu a Dadansoddi Newyddion (20 credyd)

Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno cyd-destun newyddion yn y Deyrnas Unedig trwy astudio amrywiol gyfryngau. Ystyrir cwestiynau o weddustra, safonau, plwraliaeth a chynrychiolaeth, cywair iaith a chyfraith trwy drafod newyddion ar y teledu, radio a’r we. Bydd y modiwl hefyd yn rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr trwy gyfrwng tasgau i lunio bwletinau newyddion ar gyfer y radio, y teledu a’r we.

Tiwtoriaid: Elain Price, Dr Gwenno Ffrancon, Geraint Evans, Peter Jones, Dr Rhys Jones

Lefel 3 (blwyddyn olaf)

MS-311: Traethawd Hir (20 credyd) 


Disgwylir i fyfyrwyr y Cyfryngau gwblhau darn gwreiddiol o waith ymchwil ar bwnc o'u dewis nhw. Yn sail i hyn fydd y theori a ddysgwyd drwy gydol eich gradd. Cewch gyfarwyddyd gan eich goruwchwyliwr personol chi wrth i chi ddatblygu'ch syniadau, mynd ati i wneud eich ymchwil, a llunio'ch traethawd hir.

Goruwchwylwyr cyfrwng Cymraeg: Dr Gwenno Ffrancon, Dr Rhys Jones

MS-335: Creu Fideo (20 credyd) 

Nod y modiwl trydydd flwyddyn hwn yw cyflwyno’r egwyddorion, y theorïau a’r technegau sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynyrchu fideo gan ddarparu hyfforddiant yn y sgiliau sylfaenol er mwyn galluogi myfyriwr i gynhyrchu ffilm sydd ddim llai na phedair munud o hyd o fewn terfyn amser penodedig.

Tiwtoriaid: Peter Jones, Elain Price

At hyn i gyd, y mae modd i fyfyrwyr dderbyn seminarau, tiwtorialau a chefnogaeth tiwtoriaid personol cyfrwng Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth am y modiwlau uchod neu’r ddarpariaeth yn gyffredinol, cysylltwch â Swyddog Derbyn Cymraeg y Cyfryngau, Dr Rhys Jones.

Os ydych chi'n dysgu mewn ysgol uwchradd/cyfun, a'ch bod chi am i ni ymweld (neu os ydych am ddod i'n gweld ni), byddem wrth ein bodd. Rydym yn cynnal gweithdai ac ymweliadau ysgolion yn aml.