College of Science
Wallace Building
Swansea University, Singleton Park
Swansea SA2 8PP
Biosciences Admissions Enquiries
biosciences@swansea.ac.uk
Geography Admissions Enquiries
geography@swansea.ac.uk
Student Information Office (Current Students)
Tel: +44 (0)1792 295359
Email: sio@swansea.ac.uk
Ein Dull Derbyn a Chynigion
Mae Prifysgol Abertawe yn cynnig profiad myfyrwyr sydd drwyddi draw yn rhagorol, a hynny ar yr un pryd â chynnig addysg o’r safon orau, gan gynhyrchu graddedigion sydd wedi’u galluogi i gyflawni’n rhagorol yn bersonol ac yn broffesiynol. Rydym yn croesawu ceisiadau ac ymholiadau gan bobl beth bynnag fo’u hoed, tras ethnig neu genedl, hil, crefydd, rhyw, tueddfryd rhywiol, statws priodasol, cyfrifoldeb teulu, anabledd corfforol neu synhwyrol, a’u gweithgareddau a’u credoau gwleidyddol neu grefyddol oni bai fod y rheiny yn anghyfreithlon neu’n groes i bolisïau’r Brifysgol.
In English
Dylid cyflwyno ceisiadau drwy UCAS (Gwasanaeth Derbyn y Prifysgolion a’r Colegau).
Ein cynnig arferol sy’n ffafredig gennym yw 300 pwynt o 3 Lefel-A neu gyfwerth (e.e. 2 Lefel-A a 2 lefel AS). Fel arfer byddem yn disgwyl o leiaf 100 pwynt mewn pwnc addas. Mae’r pynciau addas yn cynnwys:
- ar gyfer pob cynllun gradd: Daearyddiaeth
- ar gyfer Daearyddiaeth Ffisegol a Gwyddorau Ffisegol y Ddaeaer, Daearyddiaeth neu Ddaeareg neu Wyddor yr Amgylchedd neu bwnc Gwyddonol arall:
- ar gyfer Daearyddiaeth Ddynol: Daearyddiaeth neu Gymdeithaseg neu Datblygiad y Byd;
- ar gyfer Geo-Wybodeg: unrhyw bwnc Gwyddonol.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y rownd bresennol gan ymgeiswyr sydd am gymryd blwyddyn i ffwrdd a gohirio eu mynediad.
Rydym yn annog yr holl ymgeiswyr i ymweld â Phrifysgol Abertawe. Pan dderbyniwn eich ffurflen UCAS ni fyddwn yn gwneud cynnig i chi fel arfer hyd nes y byddwch wedi dod i Ddiwrnod Ymweld neu hyd nes y dywedwch wrthym nafedrwch fynychu. Os nad ydych yn gallu dod i Ddiwrnod Ymweld, rhowch wybod inni; ni fydd hyn yn niweidio eich cais. Os ydym yn gwybod eich bod eisoes wedi mynychu Diwrnod Agored ac yn debygol o gwrdd â’n cynnig ffafredig, mae’n bur debyg y byddwn yn rhoi cynnig i chi ar ôl derbyn eich ffurflen UCAS; byddwn yn parhau i gynnig cyfle i chi fynychu Diwrnod Ymweld.
Byddwn yn ysgrifennu atoch o fewn rhai dyddiau o dderbyn eich ffurflen UCAS, gan naill ai roi cynnig i chi yn syth, neu fel arall yn eich gwahodd i un o’n Diwrnodau Ymweld. Byddwn yn gwneud cynnig o fewn ychydig ddiwrnodau ar ôl chi fynychu Diwrnod Ymweld neu ar ôl i chi ddweud na allwch fynychu.
Efallai y byddwn yn gwneud cynnig i chi sy’n fwy na 300 pwynt os oes gennych bwyntiau yn barod yn ychwanegol at 3 Lefel-A (e.e. os oes gennych eisoes radd o bedwerydd pwnc ar lefel AS neu o arholiadau Cerddoriaeth). Yn yr achosion hyn, ni fydd y cynnig a wnawn i chi yn fwy na 300 pwynt o’r hyn sy’n gyfwerth â 3 Lefel-A.
Efallai y byddwn yn gwneud cynnig i chi sy’n llai na 300 pwynt os y rhagwelir na fyddwch yn cael y cynnig a ffefrir gennym, a rydym o’r farn yn sgil cyfweliad y byddech yn fyfyriwr llwyddiannus yn Abertawe.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein proses dderbyn, cysylltwch â’r Tiwtor Derbyn.
Dylai ymgeiswyr dramor fynd i www.swan.ac.uk/international/






