College of Science
Wallace Building
Swansea University, Singleton Park
Swansea SA2 8PP
Biosciences Admissions Enquiries
biosciences@swansea.ac.uk
Geography Admissions Enquiries
geography@swansea.ac.uk
Student Information Office (Current Students)
Tel: +44 (0)1792 295359
Email: sio@swansea.ac.uk
Cynlluniau Gradd sydd ar gael
Mae nifer o gynlluniau gwahanol y gallwch gyflwyno cais ar eu cyfer.
BSc Daearyddiaeth
Cynlluniau Anrhydedd Sengl
In English (L700) a BA Daearyddiaeth (F800)
Mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr yn astudio am raddau Daearyddiaeth BA neu BSc Anrhydedd Sengl. Mae’r cynlluniau hyn yn rhoi modd i chi ddewis ar ba agwedd o Ddaearyddiaeth yr hoffech ganolbwyntio yn ystod y 3 blynedd o astudio. Maepob myfyrwyr yn astudio set o fodiwlau Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol yn Lefel Un. Dewisa myfyrwyr Daearyddiaeth BA a BSc o’r un casgliad o fodiwlau opsiynol yn Lefelau Dau a Thri, a gallant wneud yr un cyrsiau. Ond, fel arfer, mae myfyrwyr sydd â mwy o ddiddordeb mewn Daearyddiaeth Ddynol ac sydd â phynciau Celfyddydol yn Lefel-A (megis Cymraeg, Saesneg, Hanes neu ieithoedd) yn dewis y cynllun BA, ac mae myfyrwyr sydd â mwy o ddiddordeb mewn Daearyddiaeth Ffisegol ac sydd â phynciau Gwyddoniaeth yn Lefel-A (megis Bioleg neu Gyfrifiadureg) yn dewis y cynllun BSc, ond chi sydd biau’r dewis. Ffactorau eraill a allai ddylanwadu ar eich dewis o gynllun gradd yw eich llwybr gyrfa yn y pen draw a’ch dewis personol. Unwaith yr ydych yn dechrau yn Abertawe gallwch newid rhwng y cynlluniau hyn. Am ragor o wybodaeth am y cynlluniau, ewch i Ein Haddysgu.
BA Daearyddiaeth Ddynol (L720)
Mae’r cynllun yma wedi’i anelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn daearyddiaeth ddynol. Mae myfyrwyr yn dilyn modiwlau daearyddiaeth yn Lefel Un, ynghyd â modwilau sy’n ymdrin â chymdeithaseg ac anthropoleg. Yn Lefelau Dau a Thri, mae myfyrwyr yn astudio modiwlau gorfodol (dulliau ymchwil, ymdrin â daearyddiaeth, cwrs maes, traethawd hir) sy’n canolbwyntio ar ddaearyddiaeth ddynol, a dewisir modiwlau opsiynol o’r rheiny sy’n astudio daearyddiaeth ddynol. Am ragor o wybodaeth am y cynllun yma, ewch i Ein Haddysgu.
BSc Daearyddiaeth Ffisegol (F840)
Mae’r cynllun hwn wedi anelu at fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn daearyddiaeth ffisegol. Mae myfyrwyr yn dilyn modiwlau daearyddiaeth ffisegol yn lefel Un ynghyd â modiwlau ar ddaeareg. Ar Lefelau Dau a Thri, mae myfyrwyr yn astudio modiwlau gorfodol ((dulliau ymchwil, ymdrin â daearyddiaeth, cwrs maes, traethawd hir) sy’n canolbwynio ar ddaearyddiaeth ffisegol, a dewisir modiwlau opsiynol o’r rheiny sy’n astudio daearyddiaeth ffisegol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Ein Haddysgu.
Bydd y cynllun hwn yn cyfuno Daearyddiaeth Ffisegol â Daeareg a bydd yn addas i chi os oes gennych ddiddordeb yn agweddau ffisegol y Ddaear. Mae myfyrwyr yn dilyn modiwlau mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Daeareg yn Lefel Un.Yn Lefelau Dau a Thri, mae myfyrwyr yn astudio modiwlau gorfodol (dulliau ymchwil, ymdrin â daearyddiaeth, cwrs maes, traethawd hir) sy’n canolbwyntio ar ddaeryddiaeth ffisegol. Byddant yn ymgymryd â gwaith maes daearegol ychwanegol ynghyd â modiwl sy’n ymchwilio’r cofnod daearegol o newid amgylcheddol. Yn Lefel Tri, mae myfyrwyr yn cyflawni traethawd hir a thraethawd ar ffiniau ymchwil neu brofiad gwaith ar thema ddaearegol. Dewisir modiwlau opsiynol ar gyfer Lefelau Dau a Thri o blith rhai daearyddiaeth ffisegol. Arm ragor o wybodaeth am y cynllun, ewch i Ein Haddysgu.
BSc Geo-Wybodeg a Chyfrifiadureg (GF48) BSc Geo-Wybodeg a Mathemateg (GF18)
Geo-Wybodeg yw defnyddio technolegau newydd ar gyfer problemau daearyddol, ac mae’n cynnwys dulliau sy’n seiliedig ar dechnoleg megis lloerennau synhwyro o bell, Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a modelu amgylcheddol. Mae’r cynllun gradd hwn yn rhoi modd i chi arbenigo ar yr agweddau hyn o Ddaearyddiaeth. Nid oes gofyn i chi gael Lefel-A Daearyddiaeth ar gyfer y cynllun hwn, ond disgwylir i chi fod wedi gwneud Lefel-A Mathemateg
BSc Daearyddiaeth a Geo-Wybodeg (F8R9)
Mae’r cynllun hwn yn rhoi modd i fyfyrwyr sy’n astudio anrhydedd sengl mewn Daearyddiaeth i astudio mewn prifysgol yn Ewrop am flwyddyn (rhwng Lefelau Dau a Thri) o dan raglen symudoledd myfyrwyr Socrates-Erasmus dan nawdd yr Undeb Ewropeaidd. Disgwylir i chi wneud modiwlau yn iaith eich sefydliad cyfnewid yn Lefelau Un a Dau.
Cynlluniau Cyd-Anrhydedd
Gallwch gyfuno eich astudiaeth o Ddaearyddiaeth gyda dewis helaeth o bynciau eraill yn Abertawe. Mae’r cynlluniau hyn yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n gwybod eu bod am astudio dau bwnc ar lefel gradd. Bydd tua hanner eich astudiaethau mewn Daearyddiaeth a’r hanner arall yn eich pwnc arall. Mae myfyrwyr cyd-anrhydedd yn astudio llai o Ddaearyddiaeth ym mhob blwyddyn na myfyrwyr gradd sengl. Ar gyfer cynlluniau cyd-anrhydedd penodedig BA, bydd myfyrwyr yn bennaf yn astudio daearyddiaeth ddynol yn Lefel Un, ac ar gyfer cynlluniau penodedig BSc byddwch yn astudio daearyddiaeth ffisegol yn bennaf. Ceir dewis rhydd o fodiwlau Daearyddiaeth yn Lefelau Dau a Thri. Mae’r cynlluniau cyd-anrhydedd canlynol ar gael ar hyn o bryd:
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth ac Astudiaethau Americanaidd [cynllun 4-blynedd gyda blwyddyn astudio yng Ngogledd America] (TL77)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth ac Economeg (LL17)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth a Saesneg (LQ73)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth a Ffrangeg [cynllun 4-blynedd gyda blwyddyn astudio yn Ffrainc] (LR71)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth ac Almaeneg [cynllun 4-blynedd gyda blwyddyn astudio yn yr Almaen] (LR72)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth a Hanes (LV71)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth ac Eidaleg [cynllun 4-blynedd gyda blwyddyn astudio yn yr Eidal] (LR73)
BSc Econ Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth a Pholisi Cymdeithasol (LL47)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth a Sbaeneg [cynllun 4-blynedd gyda blwyddyn astudio yn Sbaen] (LR74)
BA Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth a Chymraeg [ar gael fel cynllun 4-blynedd os nad yw Cymraeg yn iaith gyntaf i chi] (LQ75)
BSc Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth a’r Gwyddorau Biolegol (CL17)
BSc Cyd-Anrhydedd Daearyddiaeth ac Economeg (LL71)






