News

Events

Podcasts

Contact

College of Science
Wallace Building
Swansea University, Singleton Park
Swansea SA2 8PP

Biosciences Admissions Enquiries
biosciences@swansea.ac.uk

Geography Admissions Enquiries
geography@swansea.ac.uk

Student Information Office (Current Students)
Tel: +44 (0)1792 295359
Email: sio@swansea.ac.uk

Welcome to GEOGRAPHYHOME

Astudio Daearyddiaeth yn Abertawe: Prif nodweddion

Pam ddylech chi ystyried cyflwyno cais i astudio Daearyddiaeth yn Abertawe? Credwn bydd eich amser yma yn Abertawe yn llawn mwynhad, yn llawn dysg, ac yn llawn her, ac y byddwch yn graddio â gradd fydd yn rhoi dealltwriaeth gadarn i chi o’r pwnc ac yn eich paratoi yn dda ar gyfer y byd gwaith modern.

In English

Dyma rai o’r rhesymau pam y dylech ystyried gyflwyno cais i astudio Daearyddiaeth yn Abertawe:

  • Mae ein dysgu o’r safon orau.  Yn 2005, enillodd Prifysgol Abertawe wobr The Times Higher am ddarparu’r Profiad Myfyriwr Gorau mewn Addysg Uwch yn y DU. Roeddem ar y rhestr fer ar gyfer gwobr 2006 hefyd.  Mae Daearyddiaeth yn sgorio’n uwch na chyfartaledd y Brifysgol yn yr Arolwg Boddhad Myfyrwyr.  Rhoddwyd y radd Gwych i’n dysgu;
  • Cydnabyddir ein hymchwil yn rhyngwladol. Llwyddom i gael Gradd 4 yn Ymarfer Asesiad Ymchwil 2001 ac rydym yn llwyr ddisgwyl cael y radd uchaf bosibl yn ymarfer 2008. Gan ein bod yn rhan o adran sy’n cael ei harwain gan ymchwil, rydym yn ymwybodol bod ein myfyrwyr yn dysgu am Ddaearyddiaeth gan arbenigwyr brwd ac ymroddedig a hynny drwy gyfrwng cyrsiau sy’n gyfoes, yn amserol, yn ddiddorol ac yn heriol;
  • Rydym yn Adran fawr sy’n tyfu, sy’n ein galluogi i gynnig cyrsiau arbenigol i fyfyrwyr ar hyd ehangder cyfan y pwnc, a hynny mewn Daearyddiaeth Ffisegol, Daearyddiaeth Ddynol a Geo-Wybodeg. Mae ein safle yng nghanol Ysgol yr Amgylchedd a Chymdeithas yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu dewis cyrsiau cyffrous mewn pynciau sy’n perthyn yn agos i Ddaearyddiaeth os dymunant; 
  • Mae strwythur ein cwrs yn caniatáu’r hyblygrwydd pennaf i fyfyrwyr. Yn ogystal ag amryw o gynlluniau gradd, mae gan fyfyrwyr ddewis eang o fodiwlau Lefelau Dau (mae hanner y modiwlau a ddewisir yn opsiynau) a Thri (mae’r holl fodiwlau yn opsiynau); 
  • Mae myfyrwyr gradd sengl yn gwneud cwrs maes dramor yn eu hail flwyddyn a hynny mewn un o sawl lleoliad cyffrous (Awstria, Mallorca, Vancouver neu Efrog Newydd ar hyn o bryd).  Mae cyfleoedd eraill i wneud gwaith maes yn codi drwy gydol y cwrs;
  • Rydym yn asesu myfyrwyr drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys cymysgedd o arholiadau traddodiadol, gwaith cwrs wedi’i strwythuro a’i fonitro’n ofalus, ymarferion gwaith maes a gwaith prosiect;
  • Mae’n hawdd mynd at ein staff, ac maent yn gyfeillgar ac yn gefnogol i’n myfyrwyr. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau byw ac astudio yn Abertawe. Mae yna Gymdeithas Ddaearyddiaeth fywiog sy’n cael ei threfnu gan fyfyrwyr
  • Rydym yn rhoi cryn bwyslais ar sgiliau trosglwyddadwy er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr mewn lle da i gael eu cyflogi yn y byd gwaith modern;
  • Ac yn olaf, mae Abertawe yn lle hyfryd i astudio ac i fyw. Mae’r brifysgol wedi’i lleoli ar gampws bach, deniadol, yng nghornel parc, gyda’r môr yr ochr arall i’r ffordd.  Mae’r ddinas fywiog ar garreg y drws, a dim ond taith fer sydd yna at draethau ac arfordir Gwyr yn ogystal â mynyddoedd Bannau Brycheiniog.