Rhagarweiniad

Tynnwyd lluniau’r arddangosfa i gyd gan Is-Sarsiant Johnston o Gaerfyrddin. Roedd Sarsiant Johnson yn aelod o’r 436ed Cwmni’r Maes Cymreig wedi ei ddynodi ar gyfer y 53ydd Adran Gymreig o’r Peirianwyr Brenhinol yn ystod Rhyfel 1914-1918. Gwasanaethodd yr Adran hon yn yr Aifft a Phalestina rhwng 1915-1917. Tra yn yr Aifft a Phalestina tynnodd Is-Sarsiant Johnson nifer o luniau gan eu defnyddio yn ddiweddarach fel sail i ddarlith. Mae’r arddangosfa hon yn defnyddio ei luniau ef o’r Aifft.

Camel ar olwyn ddyfrhau ar y lan orllewinol yn Thebes. Defnyddiwyd olwynion fel hyn a alwyd yn saqiya i dynnu dŵr o’r Nîl o’r 5ed ganrif OC. Defnyddiwyd camelod yn yr Aifft yn nyddiau’r Ffaroaid o tua 500CC.  

 

Saqiya heddiw. Hawlfraint Barry Budd.

 

Dyma’r felucca y teithiodd Is-Sarsiant Johnson arni o Aswan i Luxor. Cwch hwylio bychan yw’r felucca, sy’n dal i gael ei defnyddio yn gyffredin ar yr afon Nîl.

 

Llun o felucca a dynnwyd yn ddiweddar yn Elephantine. Hawlfraint Barry Budd .

Ym 1917 pan dynnwyd y lluniau yma, roedd Prydain yn rheoli’r Aifft. Dygwyd llawer o eitemau Eifftaidd sydd bellach mewn amgueddfeydd Ewropeaidd o’r Aifft pan oedd yr Aifft o dan reolaeth Ffrainc neu Brydain. Gwerthwyd rhai gan Eifftiaid i Ewropeaid, tra bod eraill wedi eu cymryd gan Ewropeaid. Mae hyn yn wir am nifer o’r darnau yn y Ganolfan Eifftaidd. Cred rhai oherwydd hyn y dylem roi’r darnau yn ôl i’r Aifft. Beth yw eich barn? Am fwy o sylwadau ar wladychiaeth a dychweliad cliciwch yma.

Wyddon ni ddim sut oedd Is Sarsiant Johnson yn edrych. Fodd bynnag, mae nifer o luniau yn dangos y dyn hwn. Ai hwn oedd Sarsiant Johnson?

Cynnwys ffotograffau eraill a dynnwyd gan Sarsiant Johnson:

Philae

Aswan

Elephantine

Pentref Bishareen

Kom Ombo

Esna

Teml Luxor

Gwesty'r Luxor

Ffatri Siwgr Montani, 35 milltir o Luxor

Karnak 

Teml Seti I (Teml Qurna), Thebes

Medinet Habu, Thebes

Y Colossi ym Memnon, Thebes

Y Ramesseum, Thebes

Deir el-Bahri

Dyffryn y Brenhinoedd

Armant

Dendera

Teml Seti I yn Abydos

Cairo

Pyramidiau a'r Sffincs