- Hafan
- Ymchwil
- Gweithgarwch ymchwil
- Ymchwil ryngddisgyblaethol
- Wythnos Ymchwil Rhyngddisgyblaethol
Wythnos Ymchwil Rhyngddisgyblaethol
-
Dathlu ehangder a rhagoriaeth ymchwil Abertawe
-
Wythnos Ymchwil Rhyngddisgyblaethol, 21-25 Tachwedd, 2011
Croeso i Wythnos Ymchwil Rhyngddisgyblaethol gyntaf Prifysgol Abertawe.
O effaith newid hinsawdd i anghenion a dyheadau poblogaeth sy'n heneiddio, mae bywyd cymhleth yr 21ain ganrif yn wynebu nifer o heriau a chyfleoedd. Mae mynd i'r afael â hwy yn golygu cynlluniau newydd o ran dadlau a gweithredu, sy'n croesi'r ffin rhwng y gwyddonol a'r technegol, y gwleidyddol, y diwylliannol a'r cymdeithasol. Mae darparu'r cynlluniau newydd hyn yn golygu meddwl ffres, ynghyd â dulliau cysylltu a chyfathrebu ffres.
Drwy alluogi a gwobrwyo ymchwil traws-ddisgyblaethol ar draws ehangder ei gweithgarwch ymchwil, a thrwy gefnogi staff i ddefnyddio eu sylfeini disgyblaethol cryf, i weithio yn rhyngwyneb ymchwil academaidd, mae Prifysgol Abertawe yn frwd wrth annog dulliau cydweithio cyffroes ac arloesol o gynnal ymchwil rhyngddisgyblaethol.
Mae Wythnos Ymchwil Rhyngddisgyblaethol wedi'i chynllunio i ddathlu ehangder a rhagoriaeth ymchwil rhyngddisgyblaethol Prifysgol Abertawe, ac i hyrwyddo enghreifftiau o ymarfer gorau ac i symbylu partneriaethau cydweithio a syniadau newydd ymysg cymuned ymchwil helaeth y Brifysgol.
Drwy raglen gynhwysfawr o ddarlithoedd, arddangosiadau, teithiau, trafodaethau a chystadlaethau, gobeithiwn gynhyrfu eich nwyd am ymchwil, darparu cyfleoedd i chi brofi arbenigedd pobl eraill ac i fyfyrio ar, ac ailystyried eich gwaith a'ch arbenigedd eich hun.
Felly dewch i weld yr hyn y gallwch ei ddarganfod...dilynwch y cysylltiadau ar y chwith i gael gwybod beth sydd ymlaen a phryd, neu lawrlwythwch y Rhaglen ddigwyddiadau yn llawn.
Gallwch gofrestru am fwyafrif y digwyddiadau drwy'r cyswllt hwn, ond gwiriwch y gweithgaredd y mae gennych ddiddordeb ei fynychu oherwydd gall rhai ohonynt gael dulliau gwahanol o gofrestru.
