- Hafan
- Ymchwil
- Strategaeth ymchwil
- Prif amcanion
Prif amcanion
-
Prif amcanion
Bydd y Brifysgol yn adeiladu ar ei gallu a phortffolio ymchwil er mwyn sicrhau ei bod yn gynaliadwy, gan arallgyfeirio ac ennill mwy o grantiau ymchwil o bob ffynhonnell cyllid sydd ar gael, gan ganolbwyntio'n benodol ar y canlynol:
i) rownd derfynol Cronfeydd Strwythurol Ewrop, gan ei defnyddio i adeiladu gallu mewn cydweithrediad â sefydliadau addysg uwch eraill Cymru a thu hwnt i Gymru. Mae'r Brifysgol yn arwain ar ddeuddeg cynnig ac mewn partner ar bum cynnig pwysig i Raglen Gydgyfeirio ERDF/ESF a fydd yn meithrin ymchwil rhyngddisgyblaethol ar y cyd ac yn cynhyrchu gwybodaeth a llif talent mewn meysydd sydd â photensial mawr i wneud cyfraniad hanfodol i economi Cymru. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys yr Economi Ddigidol (TGCh), Ynni a'r Amgylchedd, Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch, y Diwydiannau Creadigol, Gwyddorau Bywyd a Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol.
ii) targedu cynnydd sylweddol yn y cyllid o gynghorau ymchwil y Deyrnas Unedig (RCUK), ac mae hyn eisoes wedi dechrau gyda chynnydd cyffredinol o 30% yn y grantiau a geir gan RCUK rhwng 2008/09 a 2009/10, a gyda chynnydd sylweddol yn y meysydd sy'n gysylltiedig â phynciau STEM.
iii) arwain a chymryd rhan mewn nifer o brosiectau Fframwaith 7 yr UE.
Mae'r Brifysgol hefyd am geisio gwneud y canlynol:
- Cryfhau ei sylfaen ymchwil sy'n rhyngwladol gystadleuol, a gwneud hynny drwy roi mwy o bwyslais ar ymchwil cymhwysol sydd â chysylltiadau â datblygu ac ymchwil trwy weithgareddau a ariannwyd gan noddwyr megis y TSB, RCUK, yr UE a diwydiant, fel yr amlinellir yn strategaeth 2010 Llywodraeth Cynulliad Cymru Adnewyddu'r Economi: cyfeiriad newydd.
- Mynd ati'n uchelgeisiol i dyfu mewn meysydd academaidd allweddol a ddatblygwyd mewn partneriaeth â diwydiant a'r llywodraeth a fydd yn ysgogi datblygu Economi Wybodaeth yn Ne Orllewin Cymru a thu hwnt. Cefnogir hyn gan ein huchelgais i greu cyfleuster ymchwil, arloesi ac addysgol o safon fyd-eang yng Nghampws arfaethedig Gwyddoniaeth ac Arloesedd y Bae.
- Datblygu rhagor o gydweithio gyda diwydiant (busnesau bach a chanolig a chwmnïau mawr) drwy bortffolio cynyddol eang o fentrau ymchwil, isadeiledd a datblygu economaidd.
- Bod yn ymatebol i'r heriau sy'n codi, a'r cyfleoedd sy'n cael eu cynnig, gan yr amgylchedd y mae'n gweithio ynddi. Yn benodol, byddwn yn alinio ein hunain i gefnogi uchelgeisiau Llywodraeth Cynulliad Cymru a CCAUC i wneud Cymru'n wlad fwy clyfar ac i osod ein hunain mewn safle cystadleuol yn y farchnad fyd-eang. Fel y noda Polisi Gwyddoniaeth ar gyfer Cymru (LlCC, 2006a: 2), mae dyfodol Cymru "yn yr economi wybodaeth, wedi'i chyfoethogi gan ddealltwriaeth wyddonol, dechnolegol a pheirianyddol" ac mae'n bwysig sicrhau bod Prifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau hyn.