Strategaeth ymchwil

  • Ein huchelgais ymchwil yw bod yn un o'r 30 prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig.

    Mae ymchwil yn ganolog i weledigaeth Prifysgol Abertawe ac yn chwarae rôl bwysig yn llawer o'r heriau polisi a nodir yn ein Cynllun Strategol a rhai Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae cynllunio a gweithredu integredig yn hollbwysig felly er mwyn sicrhau bod tasgau a phrosiectau allweddol yn cyd-fynd â'n hamgylchedd a diwylliant ymchwil.

    Bydd  amcanion ymchwil strategol y Brifysgol ar gyfer y cyfnod cynllunio 2009-15 yn gwireddu'r cyfleoedd sy'n deillio o berfformiad Abertawe yn Ymarferiad Asesu Ymchwil 2008.

    Mae dau Ddirprwy Is-Ganghellor yn y Brifysgol yn gyfrifol am arwain yr ymchwil yma, sef yr Athro Ian Cluckie (pynciau STEM, Meddygaeth a'r Gwyddorau Iechyd) a'r Athro Noel Thompson (y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol).

    Mae'r Dirprwy Is-Gangellorion yn cydlynu â Phenaethiaid y Colegau a'r Ysgolion drwy broses strategol o gynllunio busnes a rheoli rhaglenni, a hynny er mwyn cynorthwyo â'r dyrannu strategol ar adnoddau a sicrhau cydweithredu ar ymchwil uwch ledled y gymuned academaidd. Maent hefyd yn ymgysylltu â diwydiant a'r Llywodraeth ar ran y Brifysgol.

    Mae'r Brifysgol wrthi'n paratoi ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, sef cynllun sy'n rhoi pwysau mawr ar ansawdd y cynnyrch a gaiff ei gyhoeddi, yn ogystal ag effaith ein gwaith ymchwil ar ystod o ddefnyddwyr terfynol. Felly, mae'n hanfodol bod gennym dargedau clir ar waith ar gyfer yr agweddau allweddol hyn yn y Fframwaith, yn ogystal â'r seilwaith a'r mecanweithiau angenrheidiol i'w cyflawni. Bydd cofrestru ac asesu maint, ansawdd ac effaith gweithgarwch ymchwil y Brifysgol yn hanfodol i'n paratoadau.

    Mae'r Gr?p Rheoli Ymchwil Strategol yn gweithio ochr yn ochr â Phwyllgor Ymchwil y Brifysgol i ddatblygu a pharatoi Cynllun Gweithredu, blaenoriaethu amcanion a defnyddio Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Fel rhan o'r broses hon, mae prosiect strwythur rheoli wedi cael ei fabwysiadu er mwyn gweithredu a monitro saith her polisi y strategaeth.

    Bydd y tudalennau hyn yn dweud mwy wrthych am brif amcanion ein strategaeth ymchwil, ac efallai yr hoffech hefyd ddarllen Gweledigaeth a Datganiadau Cenhadaeth y Brifysgol, yr Uwch Dîm Rheoli, a Chyfarwyddwyr Ymchwil y Brifysgol.

  • Cyfarwyddwyr Ymchwil

    Mae gan bob Coleg Gyfarwyddwr Ymchwil cysylltiedig sy'n gyfrifol am ddatblygu ac arwain gweithredu'r strategaeth ymchwil ar gyfer y Coleg hwnnw.

    Mae'r Cyfarwyddwyr Ymchwil yn gweithio gyda'i gilydd a gyda'r ddau Ddirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Ymchwil i hyrwyddo gweithgarwch ymchwil rhwng yr adrannau a rhwng disgyblaethau gwahanol, ac i godi proffil ac enw dau eu colegau gyda rhwydweithiau allanol, cyllidwyr, cyrff y llywodraeth a phartneriaid diwydiannol.