Mae rhai o'n canolfannau ymchwil ar y cyd yn cynnwys:
Ymchwil ar y cyd â diwydiant – gyrru arloesedd
Cydweithio â diwydiant
Mae cydweithio'n agos â diwydiant yn galluogi ymchwilwyr y Brifysgol i gael effaith gadarnhaol ac uniongyrchol ar y byd masnachol. Mae'r cydweithio diwydiannol hyn hefyd yn darparu cyllid a chefnogaeth hanfodol ar gyfer prosiectau ymchwil ar draws ystod o ddisgyblaethau, a gall wneud wir wahaniaeth i fusnesau sy'n ymwneud â ni.
Efallai y byddai gennych ddiddordeb darllen mwy ynghylch sut y mae Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth gyda'r Brifysgol yn eich galluogi i:- gael mynediad at bobl gymwys i arwain prosiectau newydd
- cael mynediad at arbenigwyr sy'n gallu helpu i symud eich busnes yn ei flaen
- datblygu atebion arloesol i helpu eich busnes i dyfu
- datblygu eich cwmni ar gyfer marchnad heddiw
- cynyddu eich mantais gystadleuol
- cynyddu proffidioldeb drwy wella perfformiad busnes a gweithrediadau
Ar gyfartaledd, dyma'r manteision busnes y gellir eu disgwyl o brosiect KTP unigol sy'n para rhwng un a thair blynedd:
- cynnydd o fwy na £220,000 mewn elw blynyddol cyn treth
- creu tair swydd sy'n wirioneddol newydd
- cynnydd yn sgiliau'r staff presennol
Mae ein colegau hefyd wedi datblygu perthynas gyda diwydiant sy'n fuddiol i'r naill a'r llall, felly hefyd y mae sefydliadau, canolfannau a grwpiau ymchwil unigol. Mae ein tudalennau Busnes yn tynnu sylw at rai o'r sectorau y mae'r Brifysgol yn gweithio â hwy, yn ogystal â rhai o'r cyfleusterau a'r offer sydd ar gael i gefnogi eich gweithgareddau ymchwil a datblygu.
Mae cymorth ychwanegol i fusnesau sy'n dymuno gweithio gyda'r Brifysgol ar gael gan yr Adran Ymchwil ac Arloesi.
