- Hafan
- Ymchwil
- Gweithgarwch ymchwil
- Cyhoeddiadau
Cyhoeddiadau
Cronfa - Ystorfa Gyhoeddiadau Prifysgol Abertawe
Cyhoeddiadau Ymchwil
Mae Brifysgol yn ddiweddar, wedi datblygu ‘Cronfa’, sef ystorfa gyhoeddiadau i gadw manylion yr holl gyhoeddiadau ar draws y campws.
Mae’r manteision i Brifysgol Abertawe o gael ystorfa gyhoeddiadau sefydliadol yn cynnwys:- Lleihad mewn ymdrech a dyblygiad. Bydd y cynnyrch yn cael ei osod unwaith ar system Cronfa ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer nifer o ddibenion. Er enghraifft, rheoli cynnyrch ymchwil, adolygiadau proffesiynol, hyrwyddiadau, cyflwyno Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac ymarferion mewnol bychan y REF ynghyd ag adroddiadau rheoli’r Colegau.
- Cysondeb a mwy o gywirdeb ar draws y sefydliad.
- Dull uniongyrchol o hyrwyddo cyhoeddiadau sydd newydd eu cyhoeddi
- Rhannu data priodol yn fewnol gyda chydweithwyr a rheolwyr.
- Ymgysylltiad mwy effeithiol â rhanddeiliaid allanol drwy ledaenu cyhoeddiadau’n gyflym ar ein gwefan ac arddangos meysydd o gryfder strategol.
- Cysylltu ag offer chwilio ar y we e.e. Google Scholar gan gynyddu’r tebygolrwydd o ddyfynnu.
