REF2014
-
Fframwaith Rhagoriaeth mewn Ymchwil 2014
-
Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) 2014
Mae Prifysgol Abertawe'n ymgysylltu'n llawn â'r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF) ac mae'n anelu at ddarparu gwybodaeth berthnasol a diweddar ar yr REF i'w chydweithwyr a'i rhanddeiliaid allanol. Mae gwybodaeth ar y tudalennau hyn yn cynnwys manylion ar y fframwaith, yr amserlen, effaith, newyddion, digwyddiadau gwybodaeth a chysylltiadau defnyddiol.
Mae REF 2014 yn olynydd RAE 2008 ac mae'n anelu at asesu ymchwil ar draws Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU. Yn benodol bydd yr REF yn:
- Hysbysu'r broses o ddethol a dosrannu cyllid ymchwil i Sefydliadau Addysg Uwch
- Darparu gwybodaeth feincnodi ac yn sefydlu llinellau mesur nodweddiadol
- Darparu atebolrwydd dros fuddsoddi cyhoeddus mewn ymchwil ac yn dangos y buddion o wneud hynny.
Trwy'r REF, mae cyff cyllido'r DU yn anelu at ddatblygu a chynnal sector ymchwil dynamig sy'n cystadlu'n rhyngwladol ac sy'n gwneud cyfraniad mawr i ffyniant economaidd, lles cenedlaethol a'r gwaith o ehangu a lledaenu gwybodaeth.
Bydd y tudalennau hyn yn dweud mwy wrthych am gyflwyniadau REF, amserlen REF, ac effaith.
Caiff manylion pellach am y fframwaith eu rhyddhau gan HEFCE ym mis Gorffennaf 2011. Yn y cyfamser, ceir rhagor o wybodaeth ar dudalennau gwe HEFCE: www.ref.ac.uk