Ymchwil ôl-raddedig

Ymchwil Ôl-raddedig

Mae ymchwil o'r radd flaenaf a 90% o'r staff yn ymchwilio yn golygu bod Abertawe yn cynnig amgylchedd rhagorol ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.

Mae gan ein hymchwilwyr ôl-raddedig y cyfle i weithio gyda rhai o academyddion mwyaf blaenllaw y byd, ac i ddod yn rhan o gymuned fywiog sy'n ffynnu ar archwilio a darganfod.

Mae'r Brifysgol yn cynnig rhaglenni ymchwil ôl-raddedig ar lefel Meistr a Doethuriaeth (PhD):

  • MA / MSc / LLM drwy ymchwil
  • MPhil
  • MRes
  • PhD
  • EngD
  • MD

Mae manylion llawn am ein rhaglenni ôl-raddedig ar gael yma.

Gallwch hefyd chwilio am gyfleoedd ymchwil ôl-radd, dod o hyd i oruchwyliwr ymchwil, a dysgu mwy am fod yn fyfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Abertawe.