Marwolaeth Drist yr Athro Cysylltiol, Dr Theodora Nikaki

Er mawr dristwch a gofid i ni, rydym yn cyhoeddi marwolaeth ein cyfaill a'n cydweithiwr, yr Athro Cysylltiol Dr Theodora Nikaki.

Theodora NikakiAr ôl iddi raddio o Brifysgol Aristotle yn Thessalonica, bu Dora yn gweithio i gwmnïau preifat am nifer o flynyddoedd, cyn ennill LLM â rhagoriaeth yng Nghyfraith y Morlys a Chyfraith Forol. Aeth ymlaen i weithio i gwmni cyfraith forol yn yr Unol Daleithiau cyn ennill gradd PhD mewn cyfraith cludiant a chludo nwyddau dros y môr yn y DU. Ymunodd â ni yn Ysgol y Gyfraith Abertawe (a'r Sefydliad Cyfraith Llongau a Masnach (IISTL)) yn 2005.

Daeth yn amlwg ar unwaith bod ganddi ddawn gynhenid i addysgu, a'r unig beth a allai gystadlu â'i gallu yn y maes hwn oedd ei thosturi a'i gofal am ei myfyrwyr. Roedd hi'n mwynhau cadw mewn cysylltiad â chynifer ohonynt â phosib, yn hir ar ôl iddynt gwblhau eu hastudiaethau yma, a byddai hi bob amser yn gwneud ymdrech i gwrdd â ni pan gâi gyfle i deithio - un o'i phleserau mwyaf. Roedd yn gonglfaen ein Rhaglen LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach, ac roedd ganddi rôl ganolog yng nghymuned academaidd cyfraith llongau yma yn Abertawe. Mae ei chyfraniad at ddatblygiad ein rhaglen LLM a'i llwyddiant parhaus yn anfesuradwy.

Roedd ei dylanwad a'i chyfraniadau at ei maes ymchwil yn ffynhonnell balchder personol mawr iddi hi ac i'r gweddill ohonom yn yr Ysgol. Roedd ei hymroddiad i'w chrefft heb ei ail. Caiff ei chofio gan athrawon, myfyrwyr ac ymarferwyr â'r serch a'r parch mwyaf.

Rydym yn estyn ein cydymdeimlad mwyaf diffuant i'w theulu a'i ffrindiau. Bydd pawb yn teimlo colled fawr ar ei hôl, yn bersonol ac yn broffesiynol.