Enillwyr gwobrau Seremonïau Graddio'r Gaeaf

Dyfarnwyd gwobrau i bump o raddedigion o Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe fel rhan o seremonïau graddio'r gaeaf eleni. Mae'r ystod o wobrau ar gael yn gwobrwyo'r myfyrwyr am eu gwaith caled a'u safonau uchel cyson wrth astudio yn yr ysgol.

Dyfarnwyd gwobrau yn ystod derbyniad a gynhaliwyd ar Gampws y Bae a ddathlodd lwyddiant a chyflawniad pob un o raddedigion Ysgol y Gyfraith. Dyfarnwyd y gwobrau fel a ganlyn:

  • Rhoddwyd y wobr am 'gyflawniad academaidd uchaf' mewn Troseddeg i Alice Henson
  • Dyfarnwyd y wobr am 'y traethawd hir a dderbyniodd y marc uchaf' mewn Troseddeg i Nia Baker
  • Dyfarnwyd y wobr IISTL sef gwobr sy'n annog myfyrwyr i gynhyrchu allbwn ymchwil o safon uchel iawn i raddedig IISTL, Andreas Siniväli
  • Rhoddwyd y wobr am 'y marc uchaf ar Gwrs Ymarferol y Gyfraith' (LPC) i Bernadette Payne
  • James Powell enillodd y wobr am 'y marc uchaf am  draethawd hir y cwrs LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch'

Winter Graduation 2018 Prize Winners (2)Lluniau o'n graddedigion a enillodd wobrau: (O'r chwith i'r dde) Alice Henson, Nia Baker, Bernadette Payne, Andreas Siniväli, a James Powell.

Llongyfarchiadau i bob un o'n graddedigion a'n henillwyr gwobrau, dymunwn bob llwyddiant i chi ar gyfer y dyfodol! I weld yr ystod lawn o luniau derbyniad graddio'r ysgol gweler ein halbwm Flickr.