Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant yng Nghymru yn sefydlu Cadair Canolfan Bolisi CRC Gobaith i Blant

Mae Joseph Varughese, sefydlydd y Ganolfan Bolisi CRC "Gobaith i Blant", wedi dewis yr Athro Jane Williams o Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant yng Nghymru i ddal cadair Canolfan Bolisi CRC Gobaith i Blant.

HFC Logos

Lluniwyd y Gadair yn seiliedig ar waith prifysgolion a chanolfannau ymchwil ar amddiffyn hawliau plant a'u hyrwyddo. Fe’i lansiwyd gan Ganolfan Bolisi CRC Gobaith i Blant, sef Sefydliad Dyngarol Annibynnol Rhyngwladol a leolir yn Nicosia, Cyprus, â'r genhadaeth o hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant ar sail safonau ac egwyddorion y Confensiwn ar Hawliau Plant a Chyfraith yr Undeb Ewropeaidd.

Mae sefydlu cadair Canolfan Bolisi CRC "Gobaith i Blant" yn ceisio meithrin cydweithrediad a chydweithredu rhwng sefydliadau ac asiantaethau ledled y byd.

Mae'r Athro Jane Williams yn gydsefydlydd Arsyllfa ar Hawliau Dynol Plant, sef menter sy'n ymroddedig i weithredu hawliau dynol plant yn ymarferol. Mae Jane yn arwain tîm, Lleisiau Bach Little Voices, sy'n cefnogi ac yn grymuso plant, ymchwilwyr a chyd-gynhyrchwyr o fewn gwerthoedd a fframwaith normadol CCUHP.

Ymysg cyflawniadau eraill, yn 2015 cynhyrchodd y gwaith hwn y cyflwyniad cyntaf erioed a arweiniwyd gan blant i bwyllgor y CU ar Hawliau'r Plentyn gan blant dan 11 oed. Yn 2016, arweiniodd Jane sefydliad Canolfan Gyfreithiol Plant ym Mhrifysgol Abertawe, sef y ganolfan gyntaf o'i math ac mae’n unigryw yng Nghymru.

Ers 2018, mae Jane wedi bod yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Hillary Rodham Clinton i sefydlu Rhaglen Ymchwil Hillary Rodham Clinton mewn Hawliau Dynol Plant, â'r nod o gefnogi gweithredaeth academaidd drwy gydweithio ar ymchwil â phrifysgolion yn UDA ac ysgolheigion ym mhedwar ban byd.

Bydd y Cadeirydd yn gweithredu fel swyddog gwybodaeth ar hawliau plant yn y gymuned academaidd drwy bolisïau ac ymarfer wrth addysgu, ymgymryd ag ymchwil a darparu gwasanaethau i'r gymuned, megis cyrsiau a hyfforddiant arbenigol i weithwyr proffesiynol. Y gobaith a'r disgwyliad yw y bydd y cydweithrediad rhwng Canolfan Bolisi CRC "Gobaith i Blant" ac Arsyllfa Hawliau Dynol Plant yn rhoi’r Confensiwn ar Hawliau'r Plentyn ar waith mewn modd mwy effeithiol ac yn hyrwyddo manteisio i'r eithaf ar hawliau plant.