Beth ydyn ni’n ei wneud?
Mae Swyddfa’r Is-ganghellor yn gyfrifol am:
- Ddarparu cymorth gweinyddol, ysgrifenyddol a chymorth personol o safon uchel i’r Is-ganghellor, y Cofrestrydd a’r Prif Swyddog Gweithredol a Dirprwy Is-gangellorion y Brifysgol;
- Cymorth proffesiynol a chyfrifoldebau cydymffurfio yn y meysydd canlynol – Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth, rheoliadau mewnfudo a’r iaith Gymraeg;
- Cefnogi’r Cyngor, y Senedd, a’r Llys (corff rhanddeiliaid y Brifysgol) ac ystod o bwyllgorau polisi a rheoli nad ydynt yn rhai academaidd;
- Gweinyddu gweithdrefnau hyrwyddo Cadeiryddion a Darllenyddiaethau’r Brifysgol i APM 11 a gweithdrefn tâl proffesiynol y Brifysgol;
- Rheoli, monitro a datblygu seilwaith pwyllgorau’r Brifysgol i gefnogi gwneud penderfyniadau effeithiol;
- Darparu Gwasanaeth Rheoli Cofnodion ar gyfer cofnodion Prifysgol corfforaethol;
- Darparu a datblygu gwasanaeth cyfreithiol mewnol ar gyfer y Brifysgol.