Yr Athro Noel Thompson

Yr Athro Noel Thompson

Dirprwy Is-ganghellor (Ymchwil)

Graddiodd yr Athro Thompson o Brifysgol St. Andrews â gradd cydanrhydedd dosbarth cyntaf mewn Economeg a Hanes Modern ym 1974, aeth ymlaen i wneud gradd Meistr mewn Economeg a Syniadaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol y Frenhines yn Belfast, 1975, cyn mynd ati i wneud gwaith ymchwil a arweiniodd at ddoethuriaeth gan Brifysgol Caergrawnt ym 1981. Treuliodd gyfnod byr yn Adran Gwybodaeth Economaidd Banc Lloegr rhwng 1978-79, cyn cael ei benodi'n ddarlithydd Hanes Economaidd ym Mhrifysgol Abertawe ym 1979.

Dyfarnwyd cadair bersonol iddo ym 1999 ac roedd yn Bennaeth yr Adran Hanes rhwng 2000 a 2005. Daeth yn Bennaeth Ysgol y Dyniaethau yn 2005 ac yn 2008 fe'i penodwyd yn Ddirprwy-Is-ganghellor.

Mae'r Athro Thompson yn Gymrawd y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ac ar fwrdd golygyddol Hanes y Blaid Lafur.