Hanes a threftadaeth

Hanes a threftadaeth

Gosodwyd carreg sylfaen y Brifysgol gan Frenin Siôr y Pumed ar 19 Gorffennaf 1920 a chofrestrodd 89 o fyfyrwyr (yn cynnwys 8 myfyrwraig) y flwyddyn honno. Ym 1921, Dr Mary Williams oedd y fenyw gyntaf i'w phenodi i Gadair mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig pan ddaeth yn Athro iaith a llenyddiaeth Ffrangeg yno. Erbyn mis Medi 1939, roedd 65 staff a 485 myfyriwr.

Yn 1947 dim ond dau adeilad parhaol oedd ar y campws: Abaty Singleton a'r llyfrgell.  Sylweddolodd y Prifathro ar y pryd, JS Fulton, fod angen ehangu'r ystâd ac roedd ganddo weledigaeth o gymuned hunangynhaliol, a fyddai'n cynnwys cyfleusterau lletya, cymdeithasol ac academaidd ar un safle. Daeth ei weledigaeth ef yn sail i gampws prifysgol cyntaf y Deyrnas Unedig.

Erbyn 1960 roedd rhaglen ddatblygu ar raddfa fawr yn mynd rhagddi a thrwy hon codwyd neuaddau preswyl newydd, T?r Mathemateg a Gwyddoniaeth, a Th?'r Coleg (a ailenwyd yn ddiweddarach yn T? Fulton). Yn y 1960au hefyd aeth yr Athro Olek Zienkiewicz ati i ddatblygu'r "dull elfen gyfyngedig", a bu i'w dechneg chwyldroi dylunio a pheirianneg cynhyrchion gweithgynhyrchu. Roedd Abertawe yn dechrau dangos ei bod yn sefydliad y dylid ei gymryd o ddifrif.

Dechreuwyd ar y gwaith ar y pentref myfyrwyr yn Hendrefoelan yn 1971, sefydlwyd Llyfrgell Glowyr De Cymru yn 1973 ac agorwyd Canolfan Gelfyddydau Taliesin ar y campws yn 1984. Trosglwyddwyd yr Ysgolion Nyrsio Rhanbarthol i Abertawe ym 1992, ac agorwyd yr Ysgol Feddygaeth yn 2001.  Agorwyd y Technium Digidol yn 2005, a chwta dwy flynedd yn ddiweddarach agorodd y Brifysgol ei Sefydliad Gwyddor Bywyd, sy'n masnacheiddio canlyniadau a ddaw yn sgil gwaith ymchwil a wneir yn yr Ysgol Feddygaeth. Dechreuodd y gwaith o godi ail sefydliad Gwyddor Bywyd yn 2009.

Mae prosiect ehangu a datblygu uchelgeisiol yn nawr ar y gweill ar y campws, gan sicrhau bod Prifysgol Abertawe yn cynnal y momentwm, ac yn parhau i weithio er budd y ddinas, ei phobl a'i diwydiannau.

Arfbais Prifysgol Abertawe

Crest

Rhoddwyd arfbais y Brifysgol gan Goleg yr Herodron yn 1921 ac mae'n parhau i fod yn gynrychiolaeth gain o'i thraddodiadau, ei threftadaeth, a'i pharhad. Darlunnir treftadaeth ddiwydiannol a morwrol Abertawe ar y darian drwy symbolau'r morthwyl, caib, ac angor. Mae'r llyfr yn cynrychioli'r byd academaidd, a'r ddraig yn symbol o Gymru.

Mae arwyddair y Brifysgol Gweddw crefft heb ei dawn (sef Craft is bereft with no inborn gift yn fras yn Saesneg) wedi'i chodi o'r Myvyrian Archaiology, un o'r casgliadau cynharaf o lenyddiaeth ganoloesol i gael ei hargraffu yn gyfan gwbl yn y Gymraeg.