Gweledigaeth ac uchelgais
Maegan Brifysgol Abertawe weledigaeth glir o fod yn brifysgol wedi'i harwain gan ymchwil o safon ryngwladol.
Yn 2004, lansiodd y Brifysgol gasgliad o bolisïau a gynlluniwyd i gyflymu ei datblygiad. Roedd y polisïau "Cyfeiriadau Strategol" yn uchelgeisiol, a chawsant eu llunio i fynd i'r afael â safle cystadleuol Abertawe yn y sector addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. Roeddynt yn targedu gwella perfformiad ymchwil y Brifysgol cyn Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 (RAE), gan greu unedau academaidd cadarn i ddenu a chadw'r staff gorau.
Dangosodd canlyniadau Ymarfer Asesu Ymchwil 2008 y canlynol:
- Llwyddodd y Brifysgol i gael y twf mwyaf yn y Deyrnas Unedig o ran gweithgarwch ymchwil o ansawdd rhyngwladol sy'n arwain y byd - cynnydd o 207% o RAE 2001. (Y cynnydd ar gyfartaledd yn Lloegr oedd 6%.)
- Graddiwyd Peirianneg Sifil yn ail yn y Deyrnas Unedig, a Pheirianneg Gyffredinol wedi'i rhoi yn y bumed safle.
- Gosodwyd Meddygaeth yn seithfed yn y Deyrnas Unedig.
- Graddiwyd Cyfrifiadureg yr 21ain yn y DU.
- O blith 31 o feysydd pwnc yng Nghymru ei hun, daeth Abertawe i'r safle cyntaf mewn 17 maes, a chyntaf neu ail mewn 24 maes.
Yn 2012, cyhoeddodd y Brifysgol Gynllun Strategol pum mlynedd, newydd sy’n adeiladu ar lwyddiant yr RAE ac yn darparu fframwaith gynhwysfawr ar gyfer gweithredu (dolenni ar gael ar y dudalen hon).