Rydym yn annog ein staff a myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg
Rydym yn annog ein staff a myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg
Rydym yn annog ein staff a myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg
Un o amcanion strategol Prifysgol Abertawe dros y bum mlynedd nesa yw meithrin diwylliant dwyieithog o fewn y Brifysgol a hyrwyddo cyfleon staff a myfyrwyr i ddefnyddio'r Gymraeg.
Popeth yn Gymraeg - ar y wefan hon fe gewch chi hyd i wybodaeth a newyddion am weithgareddau Cymraeg ar y campws a thu hwnt, gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth i ddarpar fyfyrwyr a manylion am gyrsiau a modiwlau cyfrwng Cymraeg. Mae yma hefyd gymorth ymarferol ar gyfer ysgrifennu a siarad Cymraeg a gwybodaeth am gyfieithu.
Datblygiad newydd a chyffrous ar gampws Singleton yw sefydlu Academi Hywel Teifi sy'n ganolbwynt ac yn bwerdy ar gyfer dysgu ac astudio’r Gymraeg, ac addysgu cyfrwng Cymraeg.
Cyfieithu
Dylid cyflwyno gwaith i’w gyfieithu gan Uned Gyfieithu’r Brifysgol drwy gwblhau ffurflen ar y fewnrwyd. Bydd angen i chi fewngofnodi yma yn gyntaf.
Cyfieithiadau byr – llai na 60 gair Anfonwch eich cais at: huw@mentermon.com
Mae hwn yn wasanaeth ychwanegol, sydd yn rhad ac am ddim i staff y Brifysgol. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth i gyfieithu (hyd at 60 gair) neu brawf ddarllen (hyd at 150 gair):
Dyma eirfa ac ymadroddion defnyddiol sydd wedi eu cyfieithu yn barod : E-byst a Llythyron, swyddi, cofnodion cyfarfod, defnyddio'r ffôn, offer swyddfa ac arwyddion.
Mae croeso i chi gyflwyno gwaith cwrs neu sefyll arholiadau yn Gymraeg beth bynnag eich pwnc - hyd yn oed os nad ydych yn dilyn cwrs neu fodiwl cyfrwng Cymraeg. Yr unig eithriadau yw gwaith sydd wedi ei seilio ar eich gwybodaeth o iaith arall. Rhaid cyflwyno cais i'ch Coleg drwy lenwi'r ffurflen hon:
https://intranet.swan.ac.uk/documents/welsh/Cyflwyno_gwaith_yn_Gymraeg.doc
Rhaid cyflwyno'r cais o fewn 4 wythnos o gofrestru ar y modiwl(au) perthnasol - neu wrth gofrestru os yw'r modiwl yn para llai na 4 wythnos.
Mae yna adnoddau arlein a allai eich helpu i ddysgu neu wella'ch Cymraeg.
Mae gan wefan Living in Wales gyfleuster dysgu iaith cynhwysfawr a ffeiliau ffeithiau am Gymru a’r iaith Gymraeg.
Mae Learn Welsh yn eich tywys trwy amrwyiaeth o weithgareddau a dulliau dysgu hwylus.
Mae gwefan Say Something in Welsh yn dysgu Cymraeg llafar.
Mae Canolfan Cymraeg i Oedolion, sydd wedi ei lleoli ar y Campws o fewn Academi Hywel Teifi yn cynnig cyrsiau ar bob lefel - gan gynnwys cyrsiau ar gyfer rhai sydd am wella eu Cymraeg.
Mae'r Brifysgol yn cyfrannu at gost cyrsiau Cymraeg i Staff . Cysylltwch a Chanolfan Cymraeg i Oedolion ar (01792) 60 20 70
am fanylion.
Huw Edwards yn lawnsio Academi Hywel Teifi
Mae nifer o gyrsiau cyfrwng Cymraeg ar gael
Un o'n cyn-fyfyrwyr, Jason Mohammad
Huw Edwards yn agor Caffi Cymraeg Hoffi Coffi