Y Cynllun Mentora
Mae cynllun mentora’r Brifysgol yn dwyn ynghyd ddysgwyr neu siaradwyr ‘rhydlyd’ a Chymry Cymraeg mwy hyderus a phrofiadol mewn ffordd anffurfiol gydag un nod syml: ymarfer a siarad Cymraeg!
Mae parau a grwpiau’n cwrdd ar adegau ac mewn ffordd sy’n gyfleus iddyn nhw: dros goffi neu ginio, neu ar y ffôn neu e-bost.
Yn y sesiynau mentora, bydd rhai yn defnyddio llyfrau cwrs neu gylchgronau i lywio’r drafodaeth, neu’n paratoi ar gyfer arholiadau – ond mae’r mwyafrif yn cwrdd i gael clonc!