• Swyddi gwag

    Mae Prifysgol Abertawe yn cyflogi mwy na 2,500 o staff, a hi un o'r cyflogwyr mwyaf yn Abertawe. Mae ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth diddorol a chydbwysedd gwaith/bywyd gwerth chweil yn denu pobl o bob cwr o'r byd, ac o bob cefndir.

    Caiff swyddi gwag eu grwpio i chwe chategori:

    Cyngor ar gyfer ymgeiswyr

    Mae pecynnau cais i'w lawrlwytho (ar gael yn fformat Word a PDF) ac mae'r pecynnau hyn yn cynnwys yr hysbyseb, disgrifiad swydd a manyleb person ar gyfer pob swydd wag. Gwnewch yn si?r eich bod yn darllen drwy'r wybodaeth a'r ffurflenni cyn i chi ddechrau. Mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflenni mor drylwyr ag y bo modd. Mae'n rhaid i chi roi tystiolaeth ar eich ffurflen gais i ddangos sut ydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Hanfodol fel y nodir yn y Fanyleb Person. Ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni'r holl feini prawf hanfodol yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd.

    Mae'r Swyddfa Recriwtio hyn o bryd yn derbyn llawer iawn o ffurflenni cais ar gyfer pob swydd gefnogi, gyda mwy na 200 o geisiadau ar gyfer rhai swyddi clerigol cyffredinol. Ar gyfer rhai swyddi gwag, yn enwedig ar raddau 3 a 4, mae'n holl bwysig eich bod yn cyflwyno tystiolaeth o dan bob un o'r meini prawf i'w hystyried.

    Sylwer: Dylai myfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n ymgeisio am swyddi yn y Brifysgol sylweddoli ei bod yn bosibl bod yna gyfyngiadau ar nifer yr oriau y gellir eu cynnig iddynt bob wythnos. Os ydych yn ansicr ynghylch eich sefyllfa, gweler dogfen gyfarwyddyd y Brifysgol:

    Cyflogi Myfyrwyr - Canllawiau.
    Dylid anfon ffurflenni cais wedi'u llenwi at:
    Yr Adran Adnoddau Dynol
    Prifysgol Abertawe
    Parc Singleton
    Abertawe
    SA2 8PP


    Ebost personnel.mailbox@abertawe.ac.uk