Dewch i Ddarganfod Caffi Blas

Dewch i ddarganfod caffi newydd Blas, yr ychwanegiad diweddaraf at ein llefydd bwyta, yn union o flaen Tŷ Fulton.

Mae ein staff yn gyfeillgar, ein coffi’n gryf, ac mae’r bwyd rhyngwladol yn siŵr o’ch plesio. Ac os nad oes gennych chi amser i aros peidiwch â phoeni! Gallwch fynd â nwdls a phitsa ffres i’w mwynhau yn y parc, wrth eich desg neu ble bynnag y mynnwch.

Rydym yn agored rhwng 9am a 5 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor a rhwng 8.30am a 4pm yn ystod y gwyliau.

Lleoliad

Mae Blas mewn lleoliad hwylus ar lawr isaf Tŷ Fulton, wrth ymyl Siop Costcutter.