"Rwy'n brawf nad yw hi byth yn rhy hwyr" meddai Jodie wrth iddi dderbyn ei PhD

Bu Jodie Croxall, o Ddyffryn y Swistir yn Llanelli, yn dathlu cyflawniad heddiw (dydd Mercher, 22 Gorffennaf) wrth iddi dderbyn ei PhD mewn Polisi Cymdeithasol gan Brifysgol Abertawe.

Jodie Croxall Bu Jodie, sy'n 39 oed, yn derbyn ei dyfarniad yng Nghynulliad Graddio a Gwobrwyo'r Haf Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn Dinas a Sir Abertawe ym mhresenoldeb ei rhieni balch, Allan a Tina, ei gŵr Neil a'i mab, Adam.

Roedd Jodie'n astudio am ei harholiadau safon uwch pan ddaeth yn feichiog yn 18 oed ac ni chafodd gyfle i'w cwblhau.  Ond, oherwydd ei diddordeb cynnar mewn polisi cymdeithasol, ailgydiodd yn ei hastudiaethau a chyflawnodd ei PhD drwy astudio rhan-amser. Cafodd ei phenodi'n Gyfarwyddwr Rhaglen y rhaglenni BSc Polisi Cymdeithasol a BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar ôl genedigaeth ei mab Adam, sydd bellach yn 20 oed, bu Jodie yn gweithio am nifer o flynyddoedd fel gweithiwr cymorth gydag amrywiaeth o grwpiau diamddiffyn.  Enillodd brofiad mewn amrywiaeth eang o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys Uned Gardiaidd Ysbyty Treforys, gofal cartref Gwasanaethau Cymdeithasol Sir Gâr a nifer o sefydliadau'r trydydd sector megis Leonard Cheshire Disability a'r Consortiwm Cyfleoedd Cymunedol (Perthyn bellach).

Yn ogystal â chyflawni’r rolau hyn, dilynodd gwrs Mynediad i Les Cymdeithasol yng Ngholeg Gorseinon (Coleg Gŵyr Abertawe bellach) lle cafodd gyflwyniad i Bolisi Cymdeithasol.

Yr hyn a apeliodd yn benodol at Jodie oedd y ffaith bod Polisi Cymdeithasol yn bwnc academaidd ac yn faes cymhwysol hefyd, sydd yn ein helpu i ddeall sut a pham mae cymdeithasau'n newid a sut caiff polisïau eu llunio i ymateb i'r newidiadau hyn.

Penderfynodd wneud gradd yn y pwnc a dechreuodd ei gradd BSc Polisi Cymdeithasol yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd Prifysgol Abertawe ym mis Medi 2003, a hithau'n 27 oed.

Fel rhan o'i hastudiaethau, bu'n archwilio materion megis hawliau dinasyddiaeth gymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch, yr hyn y dylid ei ystyried yn anghenion dynol sylfaenol a sut y dylid diwallu'r anghenion hyn a chan bwy.

Graddiodd Jodie gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 2006 ac wedyn dyfarnwyd ysgoloriaeth iddi i astudio am ei PhD yn rhan-amser. Dechreuodd hyn yn 2007, gan ganolbwyntio ar gyfleoedd cyflogaeth i rieni sengl.

Fodd bynnag, newidiodd trywydd a phwyslais astudiaethau Jodie o ganlyniad i brofiad personol, a diwygiodd destun ei PhD i archwilio diffyg cydnabyddiaeth o anghenion cymorth pobl hŷn mewn profedigaeth o fewn polisi cymdeithasol yn y DU.

Cafodd ei diddordeb yn y pwnc hwn ei sbarduno'n gyntaf gan ddiffyg cymorth (yn ôl ei disgrifiad hi) ar gyfer ei theulu yn dilyn colled drasig. 

Wrth fyfyrio am y profiad hwn, bu Jodie yn meddwl am rai o'i phrofiadau hi yn ei chyflogaeth flaenorol fel gweithiwr cymorth cymunedol. 

Roedd llawer o'r bobl hŷn yn ei gofal wedi colli rhywun annwyl iddynt. Cyhyd ag yr oedd Jodie yn gallu cofio, nid oeddent wedi cael cynnig unrhyw gymorth yn dilyn eu colled, er bod llawer ohonynt heb deulu i roi cymorth iddynt.

"Arweiniodd y profiadau a'r meddyliau hyn at chwilfrydedd teimladwy ynghylch darpariaeth cymorth i bobl hŷn mewn profedigaeth", meddai Jodie.

"Ym mis Ionawr 2008, dechreuais ystyried gwneud ymchwil yn y maes hwn. Dyna oedd sylfaen fy astudiaeth PhD a ddatblygodd yn ymchwil feirniadol i ddiffyg cydnabyddiaeth o anghenion cymorth pobl hŷn mewn profedigaeth o fewn polisi cymdeithasol yn y DU."

Er y cydnabyddir yn gyffredinol bod profedigaeth ymhlith y digwyddiadau mwyaf trawmatig ac ingol, ac yn brofiad sy'n gallu newid bywyd rhywun, canfu ei hymchwil ragdybiaeth gyffredinol bod pobl hŷn yn derbyn profedigaeth fel digwyddiad disgwyliedig, anochel ac, o ganlyniad, cymerir yn ganiataol nad yw'n cael effaith niweidiol arnynt.

O ganlyniad i'r rhagdybiaeth hon, nid ydym, fel cymdeithas, wedi gweld yr angen am ddarparu cymorth i bobl hŷn mewn profedigaeth, ac nid yw polisi cymdeithasol wedi rhoi fawr o sylw i'w hanghenion.

Amlygodd ei hastudiaeth ddiffygion y cymorth presennol sydd ar gael i bobl hŷn mewn profedigaeth yn y DU a thynnodd sylw hefyd at rai o'r goblygiadau ar gyfer profiadau pobl hŷn o brofedigaeth.

Meddai Jodie, "Heddiw, mae pobl hŷn yn fwy tebygol nag unrhyw grŵp oedran arall o golli aelodau teulu agos, ffrindiau a chymdogion.

"Heb gymorth, mae'n bosib bod nifer cynyddol o'r bobl hyn yn wynebu'r amser anodd hwn heb gymorth digonol i'w galluogi i addasu i'w bywydau ar ôl profedigaeth. Gallai hyn gael effeithiau niweidiol ar eu lles.

"Yn y bôn, mae fy astudiaeth yn dadlau na ddylai llunwyr polisi yn y Deyrnas Unedig barhau i anwybyddu profiadau pobl hŷn mewn profedigaeth a'u hanghenion cymorth posib.

"Yn y cyfnod hwn pan fo'r boblogaeth yn parhau i heneiddio, mae diffyg cymorth anffurfiol a ffurfiol, a'r anghenion cymorth niferus ac amrywiol sy'n cael eu disgrifio gan gyfranogwyr yr astudiaeth hon, yn ddadleuon pwerus i annog llunwyr polisi'r Deyrnas Unedig i flaenoriaethu cymorth profedigaeth ar gyfer pobl hŷn."

A hithau wedi cwblhau ei PhD yn llwyddiannus, gobaith Jodie yw y bydd ei chanfyddiadau'n arwain at newidiadau polisi go iawn.

Yn nyddiau cynnar ei hastudiaethau PhD, cyfarfu Jodie â Sue Richards, Cydlynydd Ardal Gofal Profedigaeth Cruse, Morgannwg. Mae'r berthynas honno'n parhau hyd heddiw ac mae Jodie a Sue yn gobeithio archwilio ffyrdd eraill o weithio ar y cyd.

Meddai Sue Richards, "Hoffai Cruse ym Morgannwg gael cyllid i gyflogi swyddog pobl hŷn, a chyda chymorth ac ymchwil Jodie, maent yn gobeithio gwireddu'r dymuniad hwnnw.

"Roeddem yn gwybod bod angen y gwasanaeth, ond nid oedd llawer o dystiolaeth i ddangos i arianwyr sut gall profedigaeth yn hwyrach mewn bywyd gael effaith mor sylweddol ar iechyd a lles.

"Er bod marwolaeth yn anochel, mae cymorth i'r bobl sy'n cael eu gadael ar ôl, yn enwedig pan fyddant yn hŷn ac yn ddiamddiffyn, yn hollbwysig er mwyn cynnal iechyd meddwl a chorfforol da."

Fel cam cyntaf, mae Jodie wedi gwneud cais i fod yn wirfoddolwr profedigaeth er mwyn cefnogi'r gwaith gwerthfawr mae Cruse yn ei wneud ar draws ardal gyfan PABM a gweithredu fel ymgynghorydd i Cruse yn eu hymdrechion i wella eu gwasanaeth ar gyfer pobl hŷn mewn profedigaeth.

Drwy gydol ei hastudiaethau PhD rhan-amser, bu Jodie yn parhau i weithio, gan gyflawni amrywiaeth o rolau ym Mhrifysgol Abertawe, fel tiwtor ar y rhaglen Polisi Cymdeithasol ac arwain seminarau a gweithdai cyn symud ymlaen i ddarlithio.

Bu Jodie yn dal nifer o swyddi Cynorthwy-ydd Ymchwil ar gyfer gwahanol Adrannau yn y Brifysgol, gan gynnwys y Ganolfan Ymchwil Gwaith Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol lle bu'n gweithio ar nifer o brosiectau megis 'Integreiddio staff gofal cymdeithasol mewn timau iechyd meddwl cymunedol'.

Wedyn, bu Jodie yn Gynorthwy-ydd Ymchwil yn Uned Ymchwil Gwybodaeth yr Ysgol Feddygaeth, lle bu'n gweithio ar gyfres o brosiectau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Adran Iechyd megis 'System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan'.

Yn 2009, cafodd Jodie ei phenodi'n ddarlithydd mewn Polisi Cymdeithasol ac wedyn daeth yn Uwch-ddarlithydd.  Y llynedd, penodwyd Jodie yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer y rhaglenni BSc Polisi Cymdeithasol a BSc Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Wrth fyfyrio ar ei thaith o ddechrau ei chwrs mynediad i addysg uwch i dderbyn ei doethuriaeth, meddai Jodie. "Rwy'n cofio teimlo'n genfigennus wrth fy ffrindiau pan aethon nhw i'r Brifysgol yn 18 oed ac roeddwn i'n meddwl mod i wedi colli unrhyw gyfle i wneud yr un peth.

"Fodd bynnag, gwnaeth fy mhrofiadau gwaith cynnar ac anogaeth y staff addysgu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe roi hwb i mi a'r hyder i ymgeisio am le ym Mhrifysgol Abertawe pan oeddwn i'n 27 oed. 

"Mwynheais bob eiliad o'm cwrs israddedig ac elwais o arbenigedd, gwybodaeth a chefnogaeth y tîm addysgu polisi cymdeithasol a wnaeth fy annog i ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig a gyrfa academaidd.

"Rwy'n meddwl bod fy llwybr i'r byd academaidd, sydd dipyn yn wahanol i'r un traddodiadol, yn fantais fawr yn fy rôl bresennol. Er enghraifft, pan fyddaf yn addysgu modiwlau megis Polisi Anabledd, sy'n asesu effaith polisïau cymdeithasol cyfoes ar bobl anabl, byddaf yn cyfuno dadleuon cyfredol o lenyddiaeth academaidd â'm profiad personol o weithio gyda phobl anabl ac yn annog myfyrwyr i siarad am eu profiadau nhw yn y maes hwn.

"Dewis dychwelyd i addysg oedd y penderfyniad gorau a wnes i erioed a dwi byth wedi edrych yn ôl. Rwy'n brawf nad yw hi byth yn rhy hwyr."

Wrth longyfarch Jodie ar ei chyflawniad, meddai'r Athro Ceri J Phillips, Pennaeth Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe, "Mae taith Jodie i'w llwyddiant heddiw yn un sy'n haeddu'r ganmoliaeth uchaf.

"Mae hi wedi dangos lefelau o ymroddiad sy'n ysbrydoli ac mae ei phrofiad yn ei gwneud yn fodel rôl delfrydol ar gyfer myfyrwyr sy'n dod i addysg uwch drwy lwybrau gwahanol i'r rhai traddodiadol.

"Mae'r Coleg yn hynod falch o'i chyflawniadau ac yn edrych ymlaen yn awyddus at weld sut bydd ei gyrfa academaidd yn datblygu a'i dylanwad ar genedlaethau o fyfyrwyr i ddod."