Prifysgol Abertawe'n anrhydeddu'r diddanwr Cymreig enwog, Max Boyce

Mae Prifysgol Abertawe wedi dyfarnu Gradd Meistr Er Anrhydedd i'r digrifwr, canwr a diddanwr enwog o Gymru, Max Boyce.

Cyflwynwyd y radd i Mr Boyce heddiw (18 Gorffennaf) yn ystod seremoni raddio Coleg y Celfyddydau a'r Dyniaethau.

Roedd Max Boyce, a anwyd yng Nglyn-nedd, bron yn gwbl anadnabyddus pan recordiodd ei albwm cyntaf, Live at Treorchy Rugby Club, ym mis Tachwedd 1973. Bu'r albwm yn llwyddiant ar unwaith, gan sicrhau Disg Aur cyntaf Max. Cyrhaeddodd ei ail albwm, We all had Doctors’ Papers, rif 1 yn y Siart Albymau, a thrwy hynny cyrhaeddodd Max y Guinness Book of Records fel yr unig ddigrifwr i gyrraedd y safle hwnnw.

Yn dilyn hynny recordiwyd cyfres deledu o'i berfformiadau mewn theatrau, a hi oedd y rhaglen a wyliwyd fwyaf yn y Deyrnas Unedig.

Max Boyce Ganol y saithdegau, cyhoeddwyd ei lyfr cyntaf, I was there! Mae'n gasgliad o ganeuon, cerddi a storïau wedi'u darlunio gan ei hen ffrind, 'Gren', sef cartwnydd y South Wales Echo.

Gellir dadlau mai ei ganeuon difrifol yw ei rai gorau, a chydnabuwyd hyn gan Amgueddfa Werin Cymru, sydd wedi casglu rhai a'i ganeuon a'u cydnabod fel "caneuon y bobl" – hanfod caneuon gwerin cyfoes. Ym 1979 ysgrifennodd Jack Waterman yn The Listener, "… Tan Max Boyce, ni allaf feddwl am unrhyw un sydd wedi bod mor enwog y tu allan i Gymru am ei Gymreictod."

Mae ei yrfa amrywiol, ac eofn, yn cynnwys ffilmio tair "rhaglen antur arbennig", a oedd yn cynnwys pennawd yn dwyn y teitl Max Boyce Meets The Dallas Cowboys, lle chwaraeodd yn safle'r chwarterwr i'r tîm pêl-droed Americanaidd enwog yn yr Unol Daleithiau.

Nid yw Max wedi bod ag ofn mynd â'i ganeuon a'i storïau i diroedd pell erioed. Pan gynigiwyd taith deg cyngerdd iddo, felly, i Ynysoedd Falkland ac Ynys y Dyrchafael, derbyniodd y cynnig yn llawen.

Ym 1995 aeth Max ar ei daith gyntaf i Dde Affrica, i gyd-fynd â Chwpan Rygbi'r Byd. Perfformiodd mewn lleoliadau llawn dop, gyda'r cynulleidfaoedd yn dwlu ar frand ei hiwmor a'i arddull adrodd storïau.

Mae ei ganeuon a'i storïau wedi dod yn rhan o ddiwylliant gwerin, a disgrifiwyd ei berfformiadau yn Wembley cyn y gêm rhwng Cymru a Lloegr ac yn y gyngerdd i ddathlu agor Cynulliad Cymru yn "ysbrydoledig" ac yn "ysbrydoli".

Roedd ei raglen deledu, An Evening with Max Boyce, a recordiwyd o flaen cynulleidfa o enwogion, yn llwyddiant digynsail, gan ddenu'r nifer uchaf o wylwyr erioed ar gyfer rhaglen deledu BBC Wales. Cadarnhaodd hyn boblogrwydd parhaus Max a hoffter pobl ifanc a hŷn ohono.

Ym 1999 aeth ar daith gyngherddau – a werthodd bob tocyn – ledled Prydain Fawr a ffilmiodd gyfres deledu BBC i gyd-fynd â Chwpan Rygbi'r Byd, lle canodd Max ei gân eiconig, Hymns and Arias, yn y seremoni agoriadol.

Ar noswyl y Mileniwm, dyfarnwyd MBE i Max yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd, a gwnaethpwyd yn Gymrawd Er Anrhydedd Coleg Cerdd a Drama Cymru. Yn yr un flwyddyn derbyniodd y Fedal y Canghellor gyntaf erioed gan Brifysgol Morgannwg, y'i mynychodd fel prentis mwyngloddio.

Yn 2007 pleidleisiwyd Max fel cawr byw mwyaf Cymru gan Red Dragon FM.

Ar 1 Mawrth 2011 ffilmiodd y BBC Max Boyce: Live at Treorchy... Again yn Theatr Parc a Dâr yng Nghwm Rhondda. Roedd y rhaglen hon yn cynnwys ffilm ddogfen yn dilyn gyrfa gynnar Max Boyce drwy ei flynyddoedd ffurfiannol anodd yn rhan o'r rhaglen. Enillodd y rhaglenni gryn glod beirniadol a thorrodd record o ran nifer gwylwyr.

Fis Medi 2013 dathlodd y BBC ei deng mlwyddiant ar drigain gyda rhaglen deledu arbennig. Denodd y nifer uchaf o wylwyr ar gyfer rhaglen BBC Wales y flwyddyn honno.

Yn 2014 cafodd lawdriniaeth dargyfeiriad pedwarplyg y galon. Yn ffodus, gwellodd yn gyflym ac roedd yn ôl ar y llwyfan o fewn blwyddyn.

Cyflwynodd Ms Ruth Madoc y Radd Er Anrhydedd i Mr Boyce. Meddai, "Yn rhy aml, caiff y term 'trysor cenedlaethol' ei orddefnyddio yn yr oes o obsesiwn ag enwogion sydd ohoni, ond yn achos yr annwyl Max, mae'r ymadrodd yn crynhoi'r dyn a'i gyfraniad anferth at ddelwedd ryngwladol Cymru.

"Rwy'n hynod falch o gael y cyfle i gefnogi'r anrhydedd rhagorol hwn, un sy'n gweddu dyn mawr a llysgennad gwych i Abertawe a gweddill y genedl."

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Mr Boyce, "Roeddwn yn wirioneddol wrth fy modd o glywed y byddaf yn derbyn Gradd Er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

"Rwyf bob amser wedi credu mai'r unig ffordd o fesur gwerth gwirioneddol person yw sut y gwelir ef gan y bobl sy'n byw yn ei filltir sgwâr ei hun. Fel y dywedwn yn Gymraeg, "Gwerth dyn mewn milltir sgwâr", felly mae'r farn fy mod yn haeddu'r dyfarniad hwn gan Brifysgol Abertawe yn anrhydedd mawr, nad yw'n bell o'm tref gartref, Glyn-nedd yng Nghwm Nedd. Mae campws newydd y Brifysgol yn syfrdanol, ac rwy'n siŵr bod dinas Abertawe yn gyfiawn falch. Yr un mor falch ag yr wyf i wrth dderbyn y gydnabyddiaeth hon."