Rhys Ifans

Rhys Ifans graduationMae Rhys Ifans yn actor Cymraeg cynhyrchiol sydd wedi serennu mewn ffilmiau eiconig gan gynnwys Twin Town, a osodwyd yn Abertawe.  Mae wedi chwarae cymeriadau mor amrywiol â Dr Curt Connors/The Lizard yn The Amazing Spider-Man, a Spike, cyd-breswylydd blêr Hugh Grant yn Notting Hill

Yn 2005, enillodd Ifans BAFTA am bortreadu'r digrifwr Peter Cook yn y ffilm Not Only but Always ar y teledu.  Mae'n actor penigamp ar y llwyfan ac mae wedi ymddangos mewn sawl cynhyrchiad gan gynnwys Under Milk Wood a Volpone yn y Theatr Frenhinol Genedlaethol. 

Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd Syr Roger Jones OBE, Dirprwy Ganghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Abertawe: "Trwy ei ddull cymhellol o bortreadu cymeriadau, mae Rhys Ifans wedi dangos ei fod yn actor method penigamp a thrylwyr, sydd bob amser yn ymwrthod â stereoteipio trwy dderbyn rolau heriol ac amrywiol. Mae hyn yn ei roi ymhlith yr actorion gorau a ddaeth o Gymru erioed."

Wrth dderbyn ei radd, dywedodd Mr Ifans: "Anrhydedd fawr yw derbyn y radd hon. Mae bob amser yn hyfryd i dderbyn cydnabyddiaeth am eich gwaith, ac mae'n golygu llawer i mi fod y gydnabyddiaeth yn dod oddi wrth brifysgol mor fawreddog mewn dinas sydd mor agos at fy nghalon. Diolch yn fawr iawn.”