Mr Alun Wyn Jones

Alun Wyn JonesMae Alun-Wyn Jones, a anwyd yn Abertawe, yn raddedig yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe ac yn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf i Gymru ar daith i'r Ariannin yn 2006. Bu'n aelod cyson o'r tîm ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2007 ac yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Yn 2010 enwyd yn gapten y Gweilch, ac mae wedi parhau i arwain rhanbarth mwyaf llwyddiannus Cymru byth ers hynny.

Enwodd Warren Gatland ef yng ngharfan Llewod Prydain ac Iwerddon ar gyfer y daith i Awstralia yn 2013, ac arweiniodd y tîm i fuddugoliaeth. Yr haf hwn bu'n gapten Cymru ar y daith i Dde Affrica.