Warren Gatland

Ganed Warren Gatland yn Hamilton, Seland Newydd, ym 1963, a chafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Hamilton, a Phrifysgol Waikato.

Bu'n fachwr Waikato, gan ennill 140 o gapiau (record i'r clwb), a bu'n aelod o dîm y Crysau Duon rhwng 1988 a 1994.

Ar derfyn ei yrfa'n chwaraewr, cafodd Warren swyddi hyfforddi gyda Leinster, Connacht, Iwerddon, Wasps Llundain, a Waikato. Yn 2007, fe'i penodwyd yn hyfforddwr cenedlaethol Cymru, ac mae ei gyflawniadau gyda Chymru'n cynnwys dwy Gamp Lawn. Bydd yn arwain Llewod Prydain ac Iwerddon ar daith i Awstralia yn yr haf eleni.