Cyflwyniad
Mae Iechyd a Gwybodeg Cleifion a’r Boblogaeth (PPHI) yn un o bedair prif thema ymchwil y Sefydliad Gwyddor Bywyd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe.
Mae PPHI yn ganolfan ymchwil amlddisgyblaethol sy’n cael ei chydnabod yn fyd-eang, ac sy’n canolbwyntio ar Ymchwil e-Iechyd a Gwybodeg, Ymchwil i Wasanaethau Iechyd ac Astudiaethau o Iechyd y Boblogaeth. Ei nod yw gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl drwy sicrhau gwelliant sylweddol yn eu hiechyd ac yn y gwasanaethau iechyd sy’n cael eu darparu.
Mae PPHI yn cyflawni’r nodau hyn drwy ymchwil rhyngddisgyblaethol cydweithredol, gan ddefnyddio data arferol cysylltiedig dienw fel elfen greiddiol ohono, a chymryd camau trylwyr i gymhwyso dulliau a threialon meintiol ac ansoddol, boed yn ddulliau sy’n bodoli’n barod neu’n ddulliau newydd.
Mae thema’r PPHI wedi esblygu o waith arloesol yn Abertawe yn y 1990au ar gysylltu setiau data iechyd a diffinio safonau trylwyr ar gyfer cofnodion meddygol, i sefydlu banc data SAIL yn 2006, i’n partneriaeth fawr yng nghynlluniau gwybodeg UKRC newydd Sefydliad UK Farr a Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol y DU.