Canlyniad y diwrnod
Cewch wybod am ganlyniad eich cyfweliad fel a ganlyn:
- Ymgeiswyr UCAS - trwy UCAS
- Ymgeiswyr uniongyrchol - trwy'r Brifysgol
Ac eithrio ymgeiswyr hwyr, bydd y Coleg yn dilyn amserlen UCAS ar gyfer gwneud penderfyniadau. Byddwch fel arfer yn cael gwybod yn y cyfweliad pryd fydd penderfyniadau am eich cwrs yn cael eu gwneud.
Gwneud eich penderfyniad chi
Os ydych yn gwneud cais drwy UCAS bydd gofyn i chi ddod i benderfyniad o fewn cyfnod amser penodol. Os ydych wedi gwneud cais am nifer o gyrsiau, fe'ch cynghorir i aros am y penderfyniadau hyn i gyd cyn gwneud eich penderfyniad eich hun. Fel hyn byddwch chi’n gwybod beth yw'r holl opsiynau o’ch blaen.
Os ydych yn derbyn cynnig o le fel ymgeisydd uniongyrchol, fel arfer bydd yn rhaid i chi gyflwyno ymateb ysgrifenedig i'r Coleg o fewn tair wythnos o ddyddiad y llythyr cynnig. Os na dderbynnir ymateb ysgrifenedig o fewn y cyfnod hwn bydd y cynnig o le fel arfer yn cael ei wrthod ar eich rhan.
Gohirio derbyn eich lle
Does dim un o'n rhaglenni'n caniatáu i ymgeiswyr ohirio cymryd eu lle tan ddyddiad diweddarach. Os ydych yn teimlo bod rhesymau i’ch esgusodi yna bydd y rhesymau dros wneud y cais, hyd y gohirio, ac amgylchiadau unigol yn cael eu hystyried. Cysylltwch â'ch tiwtor derbyn perthnasol am ragor o gyngor.
Dylech nodi, os caniateir i chi ohirio, bydd amodau'n berthnasol. Mae enghreifftiau o'r amodau hyn yn cynnwys;
- Mynychu cyfweliad anffurfiol gyda'r tiwtor derbyn cyn dechrau'r cwrs i sicrhau na fydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau yn eich atal rhag ymrestru.
- Rhoi gwybod i'r Coleg am newidiadau i’ch manylion cyswllt.
- Diweddaru 'amodau'r cynnig' isod.
- Cwrdd ag unrhyw feini prawf rheoli neu lywodraethol newydd
Sylwer y bydd rhaid i chi gwrdd ag unrhyw gostau ychwanegol megis ailymgeisio i'r GDG, eich hunan.