Gwybodaeth am Varsity Cymru

Hanes Varsity Cymru

Varsity Cymru yw'r digwyddiad mwyaf o’i fath i fyfyrwyr yng Nghymru, a’r ail fwyaf o blith Gemau Varsity Prifysgolion Prydain, yn dilyn y gystadleuaeth rhwng Rhydychen a Chaergrawnt.

Yn ystod yr Her, bydd dros 900 o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd yn cystadlu mewn dros 30 o gampau dros gyfnod o bum diwrnod, gan gynnwys: pêl-fasged, rhwyfo, golff, hoci, nofio, sboncen a Ffrisbi Eithafol. 

Mae’n un o uchafbwyntiau calendr Prifysgol Abertawe i gefnogwyr y Fyddin Werdd a Gwyn enwog.

Mae nifer o gyn-ffyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi mynd ymlaen i gynrychioli eu gwlad ac i ennill cytundebau proffesiynol neu rhannol broffesiynol gyda chlybiau yn dilyn perfformiadau gwych yng Ngêm Varsity Cymru.  Mae Capten y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Alun-Wyn Jones, chwaraewyr rhyngwladol Cymru Richie Pugh, Rhys Priestland a Dwayne Peel ymhlith y rhai sydd wedi chwarae i’r Fyddin Werdd a Gwyn yn Varsity Cymru.

 Mae tocynnau ar gyfer Varsity 2017 yn mynd ar werth yn Undeb Myfyrywr Prifysgol Abertawe ar ddydd Iau 2 Chwefror.