Technoleg Newydd I Ganfod Straen Mewn Cŵn Tywys

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn helpu i roi synwyryddion coler arbennig ar waith am y tro cyntaf er mwyn canfod straen mewn c^wn tywys, sy’n aml yn gweithio mewn sefyllfaoedd straenus.

Guide dogMae’r prosiect yn rhan o Rwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch (CALIN), rhaglen pedair blynedd gwerth €12 miliwn a ariennir gan Gymru ac Iwerddon, sy’n cynnwys rhwydwaith o arbenigwyr yng Nghymru ac Iwerddon. Nod y rhaglen yw creu arloesedd, swyddi a thwf yn y ddwy wlad.

Mae Dr Sofia Teixeira o Ganolfan NanoIechyd Prifysgol Abertawe yn gweithio gydag ymchwilwyr o’r gr^wp TGCh ar gyfer Rhaglenni Iechyd yn Sefydliad Cenedlaethol Tyndall, Cork, i drosi technolegau a ddatblygwyd i’w defnyddio gyda phobl i’w defnyddio a chyfathrebu â ch^wn C^wn Tywys Iwerddon ar gyfer y Deillion (IGDB).

Dywedodd Dr Teixeira: “Mae’r teclyn diagnostig yr ydym ni’n ei ddatblygu ar hyn o bryd yn defnyddio synhwyrydd sensitif Sbectrosgopi Rhwystriant Electrocemegol (EIS) seiliedig ar graffen. Mae’r EIS yn galluogi dadansoddiad cyflym, y gallwn ni ei wneud yn fach iawn o ran ei maint, ac y gellir ei weithgynhyrchu ar raddfa ddiwydiannol.

Cymerir sampl poer o’r ci a’i roi ar y synhwyrydd EIS, sy’n cwblhau cylched. Mae cerrynt yn cael ei redeg drwy’r cylched ac rydym yn mesur y gwrthiant. Mae’r gwerth yn cael ei gymharu â chronfa o fiofarcwyr sydd eisoes wedi eu diffinio, gan nodi pa un a oes rhywbeth yn y sampl sy’n peri pryder. Cymerir nifer o samplau i sicrhau cywirdeb.”

Dros y blynyddoedd nesaf, bydd y prosiect yn ceisio datblygu ystod o synwyryddion pwrpasol i nodi paramedrau megis symud, tymheredd, anadlu a gweithgarwch y galon a’u rhoi ar harneisiau a/neu goleri c^wn. Bydd y dechnoleg wisgadwy hon yn rhoi gwell dealltwriaeth o iechyd a lles c^wn, gan gyflwyno gwybodaeth hanfodol a fydd yn llywio penderfyniadau am bopeth o fridio i ddulliau hyfforddi i bartneriaethau â chleientiaid.

Dr Paul Galvin yw Pennaeth adran TGCh ar gyfer Rhaglenni Iechyd Strategol yn Sefydliad Cenedlaethol Tyndall. Meddai: “Yr hyn yr ydym ni’n ceisio ei ddeall drwy’r synwyryddion hyn yw’r cysylltiad rhwng paramedrau ffisiolegol a straen, gan ddefnyddio technoleg Prifysgol Abertawe ar gyfer mesur cortisol.

Mae’n costio rhwng €40,000 a €50,000 i hyfforddi un ci tywys. Mae’r c^wn hyn yn ddyfais diogelwch i’w perchnogion ac mae’n hollbwysig deall sut y maen nhw’n ymateb i ysgogiadau, er mwyn penderfynu pa un a fydd y ci yn gallu ymdopi â’r straen o fod yn gi tywys neu a fyddai’n fwy addas i fod yn gi gynorthwyydd neu’n gi cymar.

Yn y pen draw, rydym ni’n gobeithio y bydd y synwyryddion yn caniatáu i IGDB wella ei hyfforddiant a datblygiad c^wn tywys a chynnig gwell cymorth i’w cleientiaid.”

‘Mae’r Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddorau Bywyd Uwch yn un o raglenni 2014-2020 Cymru Iwerddon a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.’

 Llun trwy garedigrwydd Irish Guide Dogs for the Blind