Mae pobl a chanddynt sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol deirgwaith yn fwy tebygol o farw cyn pryd, yn ôl astudiaeth newydd

Yn ôl astudiaeth newydd sydd wedi cysylltu data o bractisau meddygon teulu ac ysbytai, mae pobl sydd wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol a mathau eraill o salwch meddwl difrifol, yn wynebu risg uwch o farw cyn pryd.

Gwnaed yr ymchwil gan Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd trwy’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl ac fe’i cyhoeddwyd yn y Journal of Schizophrenia Research.

Mental illness

Dadansoddodd y tîm ddata o 3.9 miliwn o bobl o boblogaeth y DU rhwng 2004-2013, lle cafodd 29,797 ddiagnosis o salwch meddwl difrifol mewn lleoliad gofal sylfaenol, cleifion allanol a/neu dderbyniad i’r ysbyty. 

Ar y cyfan, roedd pobl a chanddynt salwch iechyd meddwl difrifol bron deirgwaith yn fwy tebygol o farw cyn pryd na’r boblogaeth gyffredinol.

Mae’r Athro Ann John o Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, sy’n Athro Iechyd Cyhoeddus a Seiciatreg, yn arbenigo mewn atal hunanladdiad a hunan-newid.  Dywedodd i’r astudiaeth ddatgelu rhai ystadegau a ddylai gyfeirio polisi iechyd yn y dyfodol a gwella gwasanaethau, mewn gofal sylfaenol a gofal eilaidd fel ei gilydd. 

Meddai’r Athro John: “Rydym yn gwybod ers amser hir fod pobl a chanddynt salwch meddwl difrifol megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol yn tueddu i farw’n gynharach na’r rheini heb y cyflyrau cronig hyn - tua 10 neu 15 mlynedd yn gynharach. 
 

“Gellir atal llawer o’r marwolaethau hyn. Mae’n sicr yn anghyfiawnder iechyd. Fodd bynnag, mae’n bwysig i ni ddeall y rhesymau dros y marwolaethau hyn er mwyn datblygu mentrau polisi i wella gwasanaethau a mynd i’r afael â hyn mewn modd gwybodus a phenodol”.

Dengys y data fod pobl a chanddynt salwch meddwl difrifol, o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol, :

  • Deirgwaith ar ddeg yn fwy tebygol o farw oherwydd achosion amhendant ac anhysbys.
  • Ddeuddeg gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i hunanladdiad (21 gwaith os yn fenywaidd).
  • Wyth gwaith yn fwy tebygol o farw o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau.
  • Bum gwaith yn fwy tebygol o farw’n ddamweiniol.
  • Bedair neu bum gwaith yn fwy tebygol o farw o ddementia, clefyd Alzheimer neu glefyd Parkinson.
  • Ddwywaith yn fwy tebygol o farw o glefyd cardiofasgwlaidd.
  • Deirgwaith yn fwy tebygol o farw o glefyd anadlol, yn enwedig niwmonia.

Gwyddys yn barod fod pobl a chanddynt salwch meddwl difrifol yn wynebu risg uwch o farw cyn pryd, ond ni chynhaliwyd archwiliad mor fanwl o fathau penodol o farwolaethau tan nawr o ran practisau cyffredinol a/neu ysbytai. Cyn hyn mae’r rhan fwyaf o astudiaethau wedi canolbwyntio ar un lleoliad. 

Ychwanegodd yr Athro John, sydd hefyd yn cadeirio’r Grŵp Cynghori Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar Atal Hunanladdiad a Hunan-Newid: “Edrychon ni ar bractisau cyffredinol ac ysbytai a chanfyddon ni fod y bobl hynny â salwch meddwl difrifol oedd mewn cysylltiad â’u meddyg teulu ddwywaith yn fwy tebygol o farw o’u cymharu â’r boblogaeth gyffredinol – ond gyda’r rhai a dderbyniwyd i’r ysbyty, cododd hyn i deirgwaith yn fwy tebygol”.

Lle mae achosion marwolaeth yn fwy cyffredin megis clefyd cardiofasgwlaidd, byddai hyd yn oed gynnydd bach yn effeithio ar niferoedd mawr o bobl a chanddynt salwch meddwl difrifol felly mae dulliau ataliol yn bwysig. Er bod hunanladdiad yn un o’r achosion marwolaeth llai cyffredin, mae angen rhoi sylw pwysig i’w atal oherwydd y gwahaniaeth o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.

Ychwanegodd yr Athro John: “Mae’n bwysig iawn bod teuluoedd a ffrindiau pobl sy’n byw gydag iechyd meddwl difrifol yn annog eu hanwyliaid i gymryd rhan mewn rhaglenni sy’n cynnwys rhoi’r gorau i ysmygu, rhoi’r gorau i gyffuriau, mwy o ymarfer corff,  bwyta’n iachach, cadw pwysau iach a rheoli pwysedd gwaed/colesterol uchel.  

“Ond mae hi’r un mor bwysig bod unrhyw fentrau a anelir at annog ymddygiadau  ffordd o fyw iach wedi’u targedu a’u teilwra ar gyfer y rhai â salwch meddwl difrifol a’u bod ar gael mewn lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd – o roi’r gorau i ysmygu i bresgripsiynu cymdeithasol i arddio mewn grwpiau”.

Ychwanegodd yr Athro John ei bod yn debygol bod y nifer amcangyfrifedig o achosion hunanladdiad yn y grŵp hwn wedi’i danamcangyfrif a bod angen rhoi mwy o bwyslais ar atal hunanladdiad yn y grŵp mewn lleoliad cymunedol: “Dylai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ofyn fel mater o drefn am feddyliau am hunanladdiad, iselder a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau mewn practisau meddygon teulu ac ysbytai a dylent allu argymell triniaeth lle’n briodol. Gellid ymestyn seiciatreg gyswllt i lenwi’r bwlch rhwng lleoliadau cymunedol a seiciatreg yn ogystal â lleoliadau ysbyty cyffredinol a seiciatreg. Bydd buddsoddi mewn rhaglenni addysgol a seico-gymdeithasol yn awr yn achub bywydau.”