Yn ôl arbenigwyr mewn diabetes, gall monitorau uwch-dechnoleg chwarae rôl hollbwysig mewn ffyrdd iachach o fyw

Mae technoleg sydd wedi cynnig mynediad haws i bobl â diabetes at wybodaeth am lefelau siwgr yn eu gwaed eisoes yn gwneud gwahaniaeth ar draws Cymru.

Bellach mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n gobeithio y bydd y defnydd cynyddol o ddyfeisiau monitro glwcos yn annog cleifion â diabetes i fyw bywydau mwy egnïol.  

600 x 288

Meddai Athro Cyswllt Prifysgol Abertawe, Dr Richard Bracken: “Mae hypoglysemia, neu lefel siwgr isel yn y gwaed, yn ofn mawr i bobl â diabetes math 1. Gan fod ymarfer corff yn gallu achosi newidiadau glwcos, mae'n bosibl y bydd rhai pobl yn dewis peidio â bod mor weithgar ag y dylent fod er lles eu hiechyd ar y cyfan, er mwyn osgoi cael 'hypo'.

"Fodd bynnag, gall monitorau glwcos newydd helpu wrth gadw cofnod o'u lefelau glwcos a thawelu eu meddwl ynghylch yr hyn sy'n digwydd iddynt o ran ymarfer corff."

Fe'i hadwaenir fel monitro glwcos fflach ac mae'n defnyddio synhwyrydd bach a gaiff ei wisgo ar y croen i gofnodi lefelau siwgr y gwaed yn barhaus ac yna gellir ei sganio i ddarllen y canlyniad pryd bynnag y bo angen.  Mae'n golygu nad oes angen i bobl ddefnyddio’r hen ddull o brawf pricio bys mor aml.

Cafodd y dyfeisiau sylw yn y cyfryngau yn ddiweddar pan adroddwyd bod oddeutu 500,000 o bobl sy'n byw gyda diabetes yn Lloegr wedi methu â chael mynediad at y dyfeisiau o ganlyniadau i benderfyniadau o ran ariannu yn y GIG - er gwaethaf y ffaith bod y Prif Weinidog, Theresa May, wedi’i gweld mewn llun yn defnyddio’r un synhwyrydd.  

300 x 397

Meddai Dr Bracken: "Rydym bellach yn gallu cadw cofnod o gyflymder y galon, camau cerdded a chalorïau a losgwn trwy wasgu botwm ar ein dyfeisiau ffitrwydd personol. 

"Mae'r synwyryddion hyn yn gwneud yr union un peth ar gyfer lefelau glwcos ac maent wir yn helpu pobl sy'n byw gyda diabetes i reoli eu cyflwr.  Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymchwilio i'w defnyddioldeb o ran ymarfer corff.”

Mae'r synwyryddion yn darparu dwy wythnos o ganlyniadau amser go iawn ac yn tynnu sylw at newidiadau mewn lefelau siwgr yn y gwaed trwy gydol y dydd neu'r nos. 

"Nid ydym am i unrhyw beth rwystro pobl rhag gwneud ymarfer corff - mae ffordd weithgar o fyw’n cynnig llu o fuddion iechyd meddwl a chorfforol, yn ogystal â helpu i reoli diabetes,” meddai.

"Rydym yn gwybod bod ei effaith ar lefelau glwcos yn peri i rai pobl beidio â gwneud ymarfer corff ond erbyn hyn gallant gael mynediad at fwy o wybodaeth.  Mae codi ymwybyddiaeth pobl o sut y mae lefelau glwcos yn amrywio'n allweddol.

"Mae newidiadau mewn technoleg yn golygu bod cleifion bellach yn teimlo bod ganddynt y grym i reoli eu cyflwr ac mae clinigwyr wedi'u harfogi'n well i fynd i'r afael ag ef."

Mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad o ran ymchwilio i'r cyflwr ac mae hefyd yn gartref i'r uned nodedig, Uned Ymchwil Diabetes Cymru.

300 x 356

Erbyn hyn mae tua saith y cant o'r boblogaeth yn dioddef o ddiabetes ond disgwylir i'r ffigwr hwn gynyddu'n sylweddol. Mae gan dros 20 y cant o gleifion mewnol mewn ysbytai yng Nghymru ddiabetes ac mae'r cyflwr yn cyfrif am dros 10 y cant o wariant y GIG.

Mae'r Athro Steve Bain, o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe hefyd yn Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Ymchwil Diabetes. Meddai: "Mae ymestyn y cyfle i bobl â diabetes gymryd rhan mewn treialon clinigol yn un o amcanion pennaf Uned Ymchwil Diabetes Cymru. Mae hyn yn caniatáu mynediad cynnar at feddyginiaethau a dyfeisiau newydd sy'n gwella gofal diabetes yn barhaus i bobl yng Nghymru."

Mae Dr Bracken yn dweud bod ei dîm bob amser yn awyddus i ddenu recriwtiaid newydd ar gyfer treialon parhaus yr uned.

"Mae ein treialon yn rhan hollbwysig o'n gwaith er mwyn dysgu mwy am ddiabetes. Mae ymchwil dda'n cael effaith fawr ar ddatblygu ac addasu canllawiau clinigol. 

"Rydym yn gwybod bod gan bobl sy'n cymryd rhan mewn ymchwil ddealltwriaeth well o'u cyflwr a'u bod yn gallu rheoli eu cyflwr yn well trwy'r cyswllt ychwanegol a gânt ag ymarferwyr iechyd proffesiynol a’u perthynas â nhw.  

"Mae pob croeso i unrhyw un a hoffai wybod mwy am sut y gallant gymryd rhan gysylltu â mi."

Cysylltwch â Dr Bracken ar (01792) 513059 neu drwy e-bostio  r.m.bracken@abertawe.ac.uk