Ymweliad llysgennad yn dathlu cysylltiadau cynyddol â Fietnam

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn rhannu rhai o'i phrosiectau mwyaf arloesol â Llysgennad Fietnam i'r Deyrnas Gyfunol yn ystod ymweliad arbennig â'r ddau gampws.

Ymunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, a phwysigion y Brifysgol â'i Ardderchogrwydd Tran Ngoc An am daith o safle Singleton yn dilyn cyfarfod ag arweinwyr Cymru Fyd-eang – y bartneriaeth rhwng prifysgolion Cymru, y Cyngor Prydeinig, Llywodraeth Cymru Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru – sy'n hyrwyddo Cymru drwy ei sector addysg uwch o safon fyd-eang mewn marchnadoedd tramor blaenoriaethol.

600 x 393

O’r chwith: Gwen Williams, o Brifysgolion Cymru, yr Athro Iwan Davies, Uwch-ddirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe, Nguyen Xuan Hai, Chris Lewis, o’r Cyngor Prydeinig, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, Brian Herbert, Llywodraeth Cymru, Jenny Scott, Cyngor Prydeinig ac Amanda Wilkinson, Prifysgolion Cymru.

‌Cynhaliwyd y cyfarfod cyn cyhoeddi bod Cymru Fyd-eang wedi llwyddo i sicrhau £3.5 miliwn o nawdd Llywodraeth Cymru i ddatblygu partneriaethau rhyngwladol a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan astudio mewn byd ôl-Brexit mewn gwledydd fel Fietnam.

Yn y cyfarfod cyhoeddwyd bod Cymru Fyd-eang wedi llwyddo i ennill cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a chadarnhau perthnasoedd rhwng y ddwy wlad.

I nodi'r achlysur, rhoddwyd cyfle i'r Llysgennad weld rhagor o gyfleusterau'r Brifysgol yn ogystal â chwrdd â chynrychiolwyr o Gronfa Fietnam Abertawe, a sefydlwyd i hyrwyddo cysylltiadau elusennol a rhannu arbenigedd meddygol rhwng y ddwy wlad. 

Yna aeth y cynrychiolwyr o Fietnam ar daith o Gampws y Bae gyda'r Uwch Ddirprwy Is-ganghellor yr Athro Iwan Davies. 

300 x 200

Cyfarfu Ei Ardderchogrwydd â Dr Ian Masters, a esboniodd sut mae'r efelychydd tonnau yn Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni'r Brifysgol yn helpu ag ymchwil hollbwysig i gynhyrchu ynni trydanol adnewyddadwy o donnau, llanw a cherrynt y môr, aberoedd ac afonydd. 

Yna siaradodd Dr Charlie Dunnill (chwith) a Dr Enrico Andreoli am waith y Brifysgol ar ddatblygu ymwybyddiaeth a dulliau o storio ynni adnewyddadwy cyn taith o amgylch yr Ystafell Ddosbarth Actif arobryn gyda Dr Miles Willis a oedd hefyd yn pwysleisio cysylltiadau agos y brifysgol â diwydiant. 

Aeth y daith i Adeilad Canolog Peirianneg, rhan o'r Coleg Peirianneg sy'n canolbwyntio ar beirianneg a gweithgynhyrchu uwch ac yn gartref i system efelychydd hedfan y Brifysgol, sy'n caniatáu i fyfyrwyr peirianneg awyrofod ddatblygu eu sgiliau mewn gofod rhithwir. 

600 x 400

Llysgennad Fietnam Tran Ngoc An yn cael tro ar efelychydd hedfan ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.

Mwynhaodd yr ymwelwyr hefyd daith fer o gyfleusterau'r campws gyda'r Athro Davies, gan gynnwys y Neuadd Fawr, y Ffowndri Gyfrifiadol a'r Llyfrgell, cyn cyrraedd yr Ysgol Reolaeth, lle cafodd y Llysgennad a'i barti gyfle i gwrdd â rhai o fyfyrwyr a staff y Brifysgol sy'n dod o Fietnam. 

Meddai'r Athro Davies: "Ar ddiwrnod pwysig, pan rydym yn dathlu datblygu pellach yn ein perthynas â Fietnam, ac rydym wedi mwynhau dangos rhai o'n prosiectau mwyaf cyffrous i'r Llysgennad. 

"Mae bob amser yn bleser gallu rhannu gwaith arloesol ein timau, a gobeithiwn fod y daith hon wedi dangos i'w Ardderchogrwydd rhai o fanteision ein dwy wlad yn gweithio'n agosach gyda'i gilydd."