Ymgyrch Prifysgol Abertawe i restru llefydd bwydo o’r fron cyfeillgar yn Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyrwyr bydwreigiaeth Prifysgol Abertawe yn dangos eu cefnogaeth ar gyfer Wythnos Bwydo ar y Fron (1 - 7 Awst) gydag ymgyrch a fydd yn caniatáu i rieni lleol fynd ar wefan Prifysgol Abertawe a dod o hyd i restr o siopau cyfeillgar i fwydo o’r fron yn Abertawe.

Mae Lilly Evans yn ddarlithydd mewn Bydwreigiaeth ac Iechyd Atgenhedlu yng Ngholeg Gwyddorau Dynol ac Iechyd y Brifysgol. Dywedodd: "Gyda'r ymgyrch yma, roeddem am ysbrydoli ein myfyrwyr bydwreigiaeth i ystyried sut y gallant helpu i greu diwylliant mwy cadarnhaol tuag at fwydo ar y fron. Byddwn yn cynnwys sefydliadau lleol megis siopau coffi a bwytai sydd am roi cefnogaeth i fwydo ar y fron a dangos eu bod yn croesawu mamau i fwydo ar y fron yno, trwy arddangos y poster ein myfyrwyr rydym wedi ei gynllunio a defnyddio ein hashgtag: #SwanseaSupportsBreastfeeding ar gyfryngau cymdeithasol i ddangos eu bod yn cefnogi'r ymgyrch. Bydd y siopau sy'n cefnogi'r ymgyrch yn cael eu henwi fel mannau cyfeillgar i fwydo ar y fron ac yn mynd ar ein gwefan.

 Caiff yr ymgyrch ei lansio yn Academi Iechyd a Lles y Brifysgol ar 1 Awst i gyd-fynd â dechrau Wythnos Bwydo ar y Fron.

 Meddai Lilly: "Rydym yn credu'n angerddol y dylai menywod gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud dewis gwybodus, ond ni all orffen yno. Mae angen i ni ddarparu gwell cefnogaeth i famau a newid agweddau tuag at fwydo o'r fron ac mae hyn yn lle da i gychwyn.

“Mae Wythnos Bwydo ar y Fron yn ymgyrch fyd-eang ac rydym am ddangos yr hyn yr ydym ni fel Prifysgol yn ei wneud i gefnogi hyn. "

Mae Athro Amy Brown Prifysgol Abertawe yn awdur Bwydo ar y Fron – Breasfeeding Uncovered. Meddai:

"Ni ddylai cynyddu cyfraddau bwydo ar y fron ymwneud â thargedu mamau unigol a dweud wrthynt am fwydo ar y fron. Nid yw hynny'n ddefnyddiol ac nid yw'n gweithio.

Yr hyn sydd ei angen ar fenywod yw amgylchedd cadarnhaol a chefnogol i fwydo babanod ar y fron. Mae fyny i ni fel cymdeithas - sefydliadau, busnesau, y cyhoedd i wneud yr hyn a allwn i amddiffyn a hyrwyddo bwydo ar y fron. Dyna pam mae ymgyrchoedd fel hyn mor amserol ac rwy'n gobeithio y bydd llawer o bobl yn ymuno â’n hymgyrch."