Y cwmni fferyllol Pfizer a Phrifysgol Abertawe'n dathlu cydweithrediad yng Nghynhadledd BioCymru 2018

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r cwmni fferyllol, Pfizer, a Phrifysgol Abertawe wrthi'n gwireddu eu gweledigaeth i wella gofal iechyd yn ne-orllewin Cymru, clywodd y gynulleidfa yng nghynhadledd BioCymru eleni.

Marc Clement and Managing Director of Pfizer UK, Erik Nordkamp Yng nghynhadledd BioCymru'r llynedd, cyhoeddodd Pfizer a Phrifysgol Abertawe eu bod wedi cytuno i sefydlu canolfan arloesi yn yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae. Nod y ganolfan yw rhannu gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd i ddatblygu system iechyd sy'n gweithio gyda’r diwydiant, y GIG ac academyddion i wella gofal iechyd yn y rhanbarth hwn.

Wrth annerch y gynulleidfa enfawr yng Nghanolfan y Mileniwm, yn y digwyddiad mwyaf blaenllaw yng nghalendr y gwyddorau bywyd yng Nghymru, dywedodd yr Athro Marc Clement, Is-lywydd Prifysgol Abertawe, y byddai dwy rôl newydd yn creu eu creu i gyflawni'r prosiect cydweithredol. Mae'r Ganolfan Arloesi am benodi Athro Arloesi, Ymgysylltu a Chanlyniadau Iechyd Uwch ac Ymgynghorydd Technoleg Ddigidol, y ddwy rôl i'w hariannu ar y cyd drwy'r bartneriaeth.

Labordy Byw:

Yn ôl yr Athro Marc Clement, Is-lywydd Prifysgol Abertawe a Deon yr Ysgol Reolaeth, bydd y cydweithrediad proffil uchel hefyd yn helpu i gyflawni elfennau o'r prosiect gwerth £1.3 biliwn, Bargen Ddinesig Dinas-ranbarth Bae Abertawe.

Meddai'r Athro  Clement: "Un o nodau'r Fargen Ddinesig yw creu 'labordy byw' ar gyfer iechyd, lles a'r gwyddorau bywyd yn y rhanbarth hwn. Mae'r weledigaeth ranbarthol hon yn cydweddu'n gryf â Strategaeth Ddiwydiannol ddiweddar Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer y gwyddorau bywyd.

"Rydym yn gweld y cydweithrediad hwn â busnes rhyngwladol megis Pfizer yn gyfle go iawn i wireddu ein gweledigaeth a'n nodau â phwrpas a chyflymder.

"Bydd y cydweithrediad yn gweithio mewn partneriaeth â chynigion y Fargen Ddinesig sydd â phwyslais cryf ar gymunedau a gofal sylfaenol, megis Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli a'r datblygiadau campws iechyd yn ysbytai Treforys a Singleton.

"Rydym bellach am benodi i ddwy swydd lefel uchel er mwyn datblygu'r gwaith hwn. Bydd yr Athro Arloesi, Ymgysylltu a Chanlyniadau Iechyd Uwch yn goruchwylio nifer o brosiectau arloesol ym maes gofal iechyd digidol â'r nod o ddatblygu ffyrdd o wella gofal ar gyfer trigolion de-orllewin Cymru.

"Byddwn yn gweithio gyda'n cydweithwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a dau fwrdd iechyd lleol i ddatblygu model 'profi a dysgu' i ddatblygu prosiectau y gellir eu huwchraddio a'u mabwysiadu'n gyflym ar draws y rhanbarth, Cymru a gweddill y DU. Bydd Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli yn un o'r enghreifftiau cyntaf o'r gwaith hwn."

Bodloni Gofynion Iechyd:

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Rheoli Pfizer UK, Erik Nordkamp: "Mae'n bleser mawr gennym ein bod wedi rhoi ein partneriaeth strategol â Phrifysgol Abertawe ar sail ffurfiol. Edrychwn ymlaen at gydweithio i rannu gwybodaeth a phrofiad wrth i ni geisio datblygu ffyrdd arloesol o wella canlyniadau ar gyfer cleifion, cefnogi cynaladwyedd hirdymor y GIG a chynnal diwydiant gwyddorau bywyd ffyniannus yn y DU.

Mae Pfizer wedi cydnabod de-orllewin Cymru fel cyrchfan o ddewis ar gyfer buddsoddiad rhyngwladol, gan osod y rhanbarth ar flaen y gad o ran rhagoriaeth mewn darparu gwasanaethau gofal iechyd, ymchwil, addysg ac arloesi.

Yn ôl adroddiad diweddar gan PwC a gomisiynwyd  gan Pfizer - “Driving Global Competitiveness of the UK’s Life Sciences Ecosystem for the Benefit of UK Patients, the Economy and the NHS”  - mae tri ffactor yn hollbwysig wrth gyflawni uchelgais y DU i ddatblygu sector gwyddor bywyd ffyniannus sy'n gallu cystadlu'n fyd-eang: 1) y gweithlu a sgiliau; 2) gwyddoniaeth academaidd a blaengar a 3) Mynediad i feddygaeth.

Dywedodd Erik Nordkamp y byddai prosiect y Fargen Ddinesig yn Llynnoedd Delta yn Sir Gaerfyrddin yn dod â'r holl ffactorau hyn ynghyd yn yr un lle. Meddai Mr Nordkamp: "Bydd creu Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli yn darparu lleoliad unigryw i brofi, cofnodi, datblygu, sefydlu a gwreiddio ffyrdd newydd o weithio a meddwl.

"Rydym yn llawn cyffro wrth feddwl am ddyfodol y bartneriaeth hon a'r cyfle mae'n ei gynnig ar gyfer cydweithio rhwng diwydiant, y Llywodraeth a'r system iechyd i roi cleifion yn gyntaf ac i roi'r Deyrnas Unedig ar flaen y gad yn y gwyddorau bywyd."

Ychwanegodd yr Athro Marc Clement: "Mae Pfizer yn un o'r cwmnïau mwyaf yn y byd ym maes bio-fferylliaeth ar sail ymchwil. Mae'r ffaith ein bod yn gallu denu cwmnïau rhyngwladol mor sefydledig  ac arloesol i weithio mewn partneriaeth â ni yn arwydd o hyder yn y rhanbarth hwn a'n huchelgais.

"Mae'n bleser mawr gan Brifysgol Abertawe allu rhannu datblygiadau'r bartneriaeth hon â chynadleddwyr yng nghynhadledd BioCymru eleni. Y digwyddiad hwn yw'r gynhadledd gwyddorau bywyd fwyaf blaenllaw yng Nghymru ac mae'n wych gweld cynifer o arbenigwyr o'r diwydiant, buddsoddwyr yn y gwyddorau bywyd, rhwydweithiau rhyngwladol, academyddion ac ymarferwyr gofal iechyd proffesiynol i gyd yn yr un lle yn dathlu'r gwaith rhyfeddol sy'n cael ei wneud yn y gwyddorau bywyd yma yng Nghymru.