Y Brifysgol yn croesawu aelodau'r teulu Vivian

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar 11 Ebrill, cafodd y Brifysgol y pleser o groesawu dau ddisgynnydd o'r teulu Vivian, Deborah Hinton a Lavinia Graham Vivian, i Brifysgol Abertawe. Arglwydd Abertawe a'r Teulu Vivian oedd perchnogion Abaty Singleton cyn iddo gael ei roi i'r Coleg ym 1920.

Vivian visitGwnaeth Deborah a Lavinia gwrdd a siarad â'r Athro Hywel Francis, sy'n gynghorydd strategol y Brifysgol ar Archifau, Dr Sam Blaxland, sydd wrthi ar hyn o bryd yn ysgrifennu am hanes Prifysgol Abertawe cyn ei Chanmlwyddiant yn 2020, a Richard Lancaster a Delyth Thomas o Isadran Datblygu ac Ymgysylltu'r Adran Ymgysylltu Byd-eang.  

Rhoddodd Steve Littlejohns, sydd wedi proffilio Abaty Singleton ac wedi creu rendradau tri-dimensiwn i ddangos sut oedd yr adeilad yn edrych ar adegau gwahanol yn ystod ei fodolaeth, gyflwyniad diddorol ar ei ymchwil ar ddatblygiad yr Abaty.  Hefyd darparodd yr ymweliad gyfle i staff y Brifysgol ddysgu mwy gan Deborah a Lavina am eu hynafiaid, eu hanes personol eu hunain a'u cysylltiadau â'r teulu ehangach.

I ddechrau cwrddodd y grŵp yn Siambr y Cyngor yn yr Abaty (a fu'n ystafell giniawa'r tŷ ar un adeg) sy'n dal i fod â’i lle tân gwreiddiol ac sydd â sawl arfbais y teulu ar y wal. Yna aeth y gwesteion ar daith dywys y tu allan i adeilad yr Abaty, gan edrych ar y gerddi, yr Orendy, Bloc y Stablau a'r prif fynedfa.   Hefyd gwelsant y Garreg Sylfaen a Llyfrgell 'newydd' 1937. Wedyn fe'u tywyswyd o gwmpas y tu mewn i'r Abaty, gan gynnwys yr ystafelloedd a oedd yn arfer bod yn ystafelloedd i westeion, astudfa Arglwydd Abertawe a'r ceginau.

Vivian visit 2Cyflwynwyd hanes â darluniau David Dykes a bwrdd monopoli Prifysgol Abertawe ac yna  cynhaliwyd cinio yn Siambr y Cyngor - lleoliad addas gan mai dyma le'r oedd hynafiaid Deborah a Lavinia'n arfer bwyta.  

Yn ogystal ag ymweld â'r Brifysgol, roedd y teulu Vivian yn Abertawe i fynychu taith y Man Engine yng Nghymru a gynhaliodd ei sesiwn olaf yn Abertawe ar 12 Ebrill ac a oedd yn cynnwys cyflwyno mwyn copr i'w smeltio i John Henry Vivian yng ngweithfeydd copr yr Hafod-Morfa mewn sioe tân gwyllt a goleuadau wedi'r hwyr.  

Yn y llun

Top: Deborah Hinton a Lavinia Graham Vivian (de) ar y grisiau yn Adeilad yr Abaty

Gwaelod: (o’r chwith): Steve Littlejohns, Lavinia Graham Vivian, Deborah Hinton, Dr Sam Blaxland a Richard Lancaster tu allan i’r Abaty