Prifysgol Abertawe yw'r gyntaf yng Nghymru i ennill Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe'n arwain y ffordd yng Nghymru o ran cefnogi mabolgampwyr dawnus mewn addysg drwy fod y sefydliad cyntaf y tu allan i Loegr i ennill Achrediad Gyrfa Ddeuol y Cynllun Ysgoloriaethau i Athletwyr Dawnus (TASS).

Bydd y Rhaglen Gyrfa Ddeuol yn helpu grŵp dethol o fyfyrwyr o'r Brifysgol i gydbwyso'u hastudiaethau academaidd â chwaraeon perfformiad uchel.

Mae TASS, a ariennir gan Sport England, yn bartneriaeth rhwng mabolgampwyr dawnus, sefydliadau addysg a chyrff llywodraethu chwaraeon cenedlaethol. Mae'r Cynllun yn helpu mabolgampwyr mewn addysg (16 oed a'n hŷn) i gael y gorau o'u gyrfaoedd chwaraeon ac academaidd heb orfod dewis rhwng y ddwy.

Mae gan Brifysgol Abertawe hanes balch mewn chwaraeon, gyda nifer o fyfyrwyr wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad.

Enillodd y nofiwr Jazz Carlin ddwy fedal arian yn Rio yn 2016, ac mae Georgia Davies wedi cystadlu yn y Gemau Olympaidd a Gemau'r Gymanwlad ddwywaith yr un.

Fel Canolfan Achrededig Gyrfa Ddeuol TASS, bydd Prifysgol Abertawe'n estyniad pwysig i'r rhwydwaith Safle Darparu TASS presennol, gan roi cyfle i fyfyrwyr-fabolgampwyr ddefnyddio adnoddau neu nodiadau ar-lein, i drefnu sesiynau dal i fyny â darlithwyr, neu hyd yn oed aildrefnu dyddiadau cau neu ddyddiadau arholiadau mewn amgylchiadau eithriadol.

600 x 400

O’r chwith i’r dde: Cynrychiolodd Ellena Jones, Alex Rosser ac Alys Thomas Tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn 2018.

Meddai'r Athro Martin Stringer, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: "Rydym yn falch iawn o ddod yn Ganolfan Achrededig Gyrfa Ddeuol TASS. Mae'n adeiladu ar ein traddodiad chwaraeon gref ac mae'n cydnabod rhagoriaeth ein haddysgu a'n cymorth i fyfyrwyr.

"Bydd y gydnabyddiaeth hon fel Canolfan Achrededig hefyd yn denu rhagor o fabolgampwyr dawnus i'r Brifysgol, yn ogystal â meithrin cysylltiadau â sefydliadau chwaraeon lleol eraill."

Meddai Cyfarwyddwr Cenedlaethol TASS, Guy Taylor: "Rydym yn hynod falch o ddyfarnu Achrediad Gyrfa Ddeuol TASS i Brifysgol Abertawe.

"Mae cymorth gyrfa ddeuol yn flaenllaw yng ngwaith TASS, a dyna pam mai mor bwysig i ni gydnabod y sefydliadau hynny sy'n rhoi blaenoriaeth ar addysg eu mabolgampwyr hefyd.

"Llongyfarchiadau i Brifysgol Abertawe, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw yn y dyfodol agos."