Prifysgol Abertawe yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi cyngerdd agoriadol Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni, sef Hwn yw fy Mrawd: Paul Robeson - Arwr i Gymru, Arwr i'r Byd.

Bryn Terfel yw seren Hwn yw Fy Mrawd, beiopic o fywyd yr actor a’r canwr, Paul Robeson a’i gysylltiad cryf â Chymru.  Cawn olrhain bywyd Robeson drwy lygaid un o’i gefnogwyr pennaf, Mr Jones, a bortreadir gan Bryn Terfel, wrth iddo adrodd yr hanes i Twm, bachgen ifanc sy’n chwilio am arwr.   

Hwn yw Fy Mrawd Cyfanwaith newydd a gwreiddiol wedi’i gomisiynu gan yr Eisteddfod Genedlaethol yw Hwn yw Fy Mrawd a fydd yn cael ei pherfformio ddwywaith, y tro cyntaf ar nos Wener 3 Awst, ac yna eto ar y noson ganlynol. Cynhelir perfformiad nos Wener drigain mlynedd i’r diwrnod ers i Paul Robeson annerch cynulleidfa Eisteddfod 1958 yng Nglyn Ebwy.

Meddai is-ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B. Davies: “Mae’r gyngerdd Hwn yw Fy Mrawd yn arbennig o addas fel digwyddiad i’r brifysgol hon ei noddi o gofio ein perthynas agos gyda’r teulu Robeson a’n hedmygedd o’r arwr arbennig hwn, ein hethos o brifysgol Gymreig sy’n rhyngwladol ei golygon, a’n dyheadau i ddatblygu ein diwylliant cerddorol. Mae’n fraint cael cefnogi cynhyrchiad o waith Mererid Hopwood, Robat Arwyn a Betsan Llwyd fydd yn llwyfan i ddoniau aruthrol Bryn Terfel, Steffan Cennydd ac eraill.”

Eleni, yr Athro Derec Llwyd Morgan fydd yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards, gan edrych ar hanes carwriaeth Enid Picton Davies a Thomas Parry yng Nghaerdydd 90 mlynedd yn ôl. Cynhelir y ddarlith yn y Babell Lên am 11am ar ddydd Iau 9 Awst.

Yn dilyn y ddarlith goffa, bydd derbyniad arbennig i gyn-fyfyrwyr a chyfeillion Prifysgol Abertawe am 12pm ym mwyty Ffres yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Am 4.30pm ddydd Mawrth 7 Awst ym Mhabell y Cymdeithasau 2, Syr Roderick Evans CF, dirprwy ganghellor Prifysgol Abertawe fydd yn cadeirio trafodaeth ‘Cymru ar ôl Brexit’ yng nghwmni academyddion y Brifysgol. Yn ystod y drafodaeth, mi fydd Keith Bush CF, Ysgol y Gyfraith, Dr Simon Brooks, Academi Morgan, a Dr Osian Elias o’r Adran Ddaearyddiaeth yn trafod effaith Brexit ar gyfraith, gwleidyddiaeth a chenedligrwydd Cymru.

Wedi iddo ennill Categori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn, bydd yr Athro M Wynn Thomas o’r  Adran Saesneg yn lansio Cyfan-dir Cymru, fersiwn Gymraeg o’i gyfrol All That is Wales (Gwasg Prifysgol Cymru) ym Mwyty Ffres yng Nghanolfan Mileniwm Cymru am 6pm nos Lun 6 Awst. Yn ystod y lansiad, bydd yr Athro Thomas yn trafod ei gyfrol ddiweddaraf â Dr Tomos Owen a Menna Elfyn.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi: “A hithau’n flwyddyn o arbrofi i’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Prifysgol Abertawe hefyd yn gwneud pethau’n wahanol eleni yn y Brifwyl. Mae’r Brifysgol, tra’n cefnogi’r Eisteddfod trwy noddi’r cyngerdd agoriadol, yn torri’n rhydd o’i stondin eleni ac yn estyn allan i’w chynulleidfa trwy ei chorff o staff sy’n arbenigwyr ar draws ystod o bynciau. Bydd sgyrsiau a digwyddiadau gan ein staff i’w clywed ar hyd a lled dinas Caerdydd gan gyfoethogi arlwy’r Ŵyl. Edrychwn ymlaen yn fawr!”


Bydd staff a myfyrwyr y Brifysgol hefyd yn cyfrannu at wahanol ddigwyddiadau yn ystod yr wythnos.

Cystadleuaeth y Goron - dydd Llun 6 Awst

Bydd yr Athro Emeritws a’r cyn-archdderwydd Christine James yn un o dri beirniad y Goron, a hi fydd  yn traddodi o'r llwyfan. Ar yr un diwrnod, bydd Christine hefyd yn sgwrsio â Manon Rhys am ei chyfrol newydd yn y Babell Lên am 1.30pm.

Plant y Chwyldro? – Y Babell Lên, 11am dydd Sul 5 Awst

Sioned Williams o Academi Hywel Teifi fydd yn cadeirio trafodaeth yng nghwmni Llŷr Gwyn Lewis, William Owen Roberts, Osian Owen, Grug Muse a Dr Simon Brooks, sy'n gofyn faint o ddylanwad fu ac ydi datganoli ar eu gwaith, os o gwbl, a sut gall ein llenorion ymateb i ddatganoli yn eu gwaith.

Darlith Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol – Pabell y Cymdeithasau 1, 2pm dydd Llun 6 Awst

Yn dilyn ei thaith ddiweddar i len iâ'r Ynys Las, yr Athro Siwan Davies, un o arbenigwr blaenllaw'r byd ar newid yn yr hinsawdd, fydd yn traddodi’r Ddarlith Wyddonol. 

Siwper Stomp - Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, 8pm nos Lun 6 Awst

Bydd Aneirin Karadog, myfyriwr ymchwil yn Adran y Gymraeg, yn ymuno â rhai o feirdd enwocaf y wlad ar gyfer cystadleuaeth farddol fwyaf y mileniwm - gyda’r gynulleidfa wrth y llyw!

Darlith Flynyddol Barn - Pabell y Cymdeithasau 1, 5.30pm dydd Mawrth 7 Awst

Mi fydd yr Athro Emeritws Prys Morgan yn rhannu hanesionam ei fywyd ef a’i frawd, cyn-ganghellor Prifysgol Abertawe a chyn-brif weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Colli'r Hogiau - Pabell y Cymdeithasau 2, 10.30am dydd Mercher 8 Awst

Bydd yr Athro Alan Llwyd yn trafod ei gyfrol newydd, Colli'r Hogiau, gyda'r hanesydd Dr Gethin Matthews. 

Darlith Flynyddol Cymdeithas Carnhuanawc – Pabell y Cymdeithasau 3, 2.45pm dydd Mercher 8 Awst

‘Eisteddfod Caerdydd 1938 a Deiseb yr Iaith Gymraeg’ fydd testun darlith eleni a chaiff ei thraddodi gan yr Athro Keith Bush CF o Ysgol y Gyfraith.

Adra - Byw yn y Gorllewin Cymraeg – Y Babell Lên, 1.30pm dydd Iau 9 Awst

Bydd Dr Simon Brooks o Academi Morgan Prifysgol Abertawe yn trafod ei gyfrol newydd, Adra (Y Lolfa).

Darlith Flynyddol Cymdeithas Cyfreithwyr Cymru - Pabell y Cymdeithasau 2, 3pm dydd Iau 9 Awst

Yr Athro Elwen Evans CF, pennaeth Ysgol y Gyfraith, fydd yn traddodi’r ddarlith flynyddol eleni.

Darlith Cymdeithas Edward Llwyd - Pabell y Cymdeithasau 1, 2.30pm dydd Gwener 10 Awst 

Dr Cai Ladd o'r Adran Ddaearyddiaeth fydd yn trafod ei waith ymchwil ar forfeydd heli.