Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi cydweithrediad newydd â busnes morgludiant byd-eang

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe a chwmni morgludiant byd-eang wedi cyhoeddi cynlluniau i gydweithio ar blatfform ar-lein unigryw.

Yn 2016, lansiodd Idwal Marine, sy'n rhan o'r cwmni Cymreig Graig Shipping plc a sefydlwyd dros ganrif yn ôl, www.inspectmyship.com i ddiwallu anghenion y diwydiant llongau masnach byd-eang yn yr oes ddigidol.

Mae Idwal Marine, cwmni arolygu llongau arbenigol â swyddfeydd yng Nghaerdydd a Shanghai, yn cyflogi dros 150 o arolygwyr ac arbenigwyr morol ledled y byd. Mae'r cwmni wedi arwyddo Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe  i ddatblygu'r platfform ar-lein cyntaf yn y byd at ddiben arolygu llongau.

Bellach mae'r cwmni'n gweithio gyda'r Brifysgol i ddatblygu'r platfform drwy ariannu ysgoloriaeth ymchwil PhD yn yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae fel rhan o'r cydweithrediad.

 

Collaboration_NEW from iCreate on Vimeo.

Cydweithrediad Cyffrous

Dywedodd Is-lywydd Prifysgol Abertawe a Deon yr Ysgol Reolaeth, yr Athro Marc Clement, fod y cydweithrediad newydd yn gyffrous ar gyfer yr Ysgol ac yn rhan o'i chynlluniau ehangach i feithrin cysylltiadau rhwng y sefydliad ac amrywiaeth o bartneriaid masnachol.

Meddai'r Athro  Clement, "Mae Prifysgol Abertawe mewn sefyllfa dda i ddarparu atebion cydweithredol, drwy fanteisio ar ei phrofiad cryf o addysgu, ymchwil ac arloesi.

“Mae ymchwil gan Idwal Marine yn dangos bod y gwariant presennol ar arolygu llongau’n werth tua $600m y flwyddyn, gan amlygu cyfle busnes arwyddocaol mewn sector penodol. Mae'r Ysgol Reolaeth yn falch iawn o'r cyfle i weithio gyda phartneriaid masnachol mewn amrywiaeth o sectorau i gyflawni effaith drwy ymchwil, menter ac arloesi.

“Dyma fusnes technoleg platfform arloesol, o fewn diwydiant byd-eang mawr. Mae'r cydweithrediad hwn ag Idwal Marine yn gyson â nodau'r Ysgol i wneud byd busnes yn rhan gynhenid o'n hecosystem er mwyn optimeiddio cyfleoedd i greu gwerth cynaliadwy. Ein nod hefyd yw hyfforddi ein myfyrwyr yn y dulliau newydd sy'n berthnasol i heddiw ac yfory.

“Rydym yn chwilio am ymgeisydd PhD sy'n meddu ar sgiliau technolegol uchel, diddordeb dwfn yn natblygiad model y busnes platfform, cysyniadau busnes newydd darbodus a'u heffaith fyd-eang, i weithio gyda'r Brifysgol ac Idwal Marine."

Datblygu'r platfform

Mae InspectMyShip.com yn darparu dyfynbrisiau ar unwaith ar gyfer sawl math o arolygiadau llong, mewn cannoedd o borthladdoedd ledled y byd. Y nod yw:

  • symleiddio'r broses o gael dyfynbrisiau arolygu
  • galluogi cleientiaid i brynu ar unwaith
  • cychwyn proses awtomataidd o ddynodi arolygwr a llif gwaith mewnol
  • creu adroddiadau o ansawdd uchel, wedi'u safoni, ar gyfer y cleient.

Meddai Cyfarwyddwr Idwal Marine, Nick Owens: "Gall cleientiaid fonitro cynnydd eu harolygon, derbyn a rhannu dyfynbrisiau ac adroddiadau, rheoli eu portffolio o longau ac elwa o amrywiaeth eang o offer a gwasanaethau gwerth ychwanegol sy'n benodol i'r diwydiant. Mae'r platfform eisoes wedi cael ymateb gwych gan cleientiaid, gan gynnwys y rhai yn y sector mwyaf gwerthfawr ac anodd ei blesio, sef bancio.

"Roedd sefydlu'r platfform mynediad hawdd ar-lein hwn i drefnu arolygu llongau yn gam rhesymegol er mwyn datgloi ein gallu i dyfu ymhellach. Rydym yn falch iawn o weithio gydag un o brifysgolion gorau Cymru i ddatblygu'r cynnyrch hwn. Mae'r Ysgol Reolaeth yn adnabyddus am ei gwaith partneriaeth â'r sector preifat er mwyn ysgogi ymchwil ac arloesi.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Masnachol Graig Shipping, Chris Williams, fod datblygu'r platfform yn rhan o ddiwylliant eu grŵp o chwilio am ffyrdd arloesol i dyfu eu busnes.

Meddai:  "Mae diwylliant Graig yn seiliedig ar arloesi a meddylfryd partneriaeth. Mae'r cydweithrediad hwn rhwng Prifysgol Abertawe ac Idwal Marine i ddatblygu'r platfform inspectmyship.com yn brawf o hynny. Bydd yn caniatáu i ni ymgymryd ag ymchwil marchnad helaeth i faint, cwmpas a seicoleg gweithwyr proffesiynol a busnesau morwrol sy'n arbenigwyr yn y diwydiant."

Ychwanegodd yr Athro Clement: “I barhau'n berthnasol, bydd rhaid i ni i gyd groesawu newid a chwilio'n gyson am ffyrdd gwell o wneud busnes. Mae'r platfform hwn yn enghraifft wych o arloesi yn y sector digidol. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu helpu i dyfu'r rhan hon o'u busnes.