Prifysgol Abertawe’n cydnabod Diwrnod Ewrop

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heddiw mae Prifysgol Abertawe wedi cydnabod Diwrnod Ewrop a’r prosiectau a grëwyd yn Abertawe diolch i gydweithrediadau a chyllid Ewropeaidd.

Mae’r Brifysgol yn parhau â’i rhaglen uchelgeisiol i ddatblygu’i champysau ac mae eisoes wedi buddsoddi £522m yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf i adeiladu Campws y Bae.

Gwnaed hyn gyda chymorth oddi wrth Fanc Buddsoddi Ewrop a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Mae'r Ardal Beirianneg yng nghampws newydd y Brifysgol ar y Bae wedi elwa ar ddyfarniad ariannol sylweddol gwerth €49.4m ar gyfer adeiladau a chyfarpar gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.  Yn ogystal, mae'r Brifysgol wedi denu buddsoddiad gwerth £60m gan Fanc Buddsoddi Ewrop - y tro cyntaf i'r Banc fuddsoddi yng Nghymru.

Mae’r Ffowndri Gyfrifiadurol newydd o safon fyd-eang sy’n werth £31 miliwn, a fydd yn agor yn nes ymlaen eleni, wedi’i chefnogi gan £17m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a bydd yn llywio ymchwil i wyddorau cyfrifiadurol a mathemategol ac yn troi Cymru'n gyrchfan byd-eang ar gyfer gwyddonwyr cyfrifiadurol a phartneriaid diwydiannol.

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth sicrhau cyllid ar gyfer ystod amrywiol o raglenni Cyllid Ewropeaidd eraill, gan gynnwys nifer o brosiectau cronfa strwythurol o werth sylweddol i’r Brifysgol a’r economi a’r gymuned leol. Un o’r prosiectau hyn yw ASTUTE 2020 sy’n gynllun Cymru gyfan gwerth £22.6m a arweinir gan Brifysgol Abertawe, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a Phrifysgol y Drindod Dewi Sant ac sydd wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru a’r Sefydliadau Addysg Uwch sy’n cymryd rhan.

Mae ASTUTE 2020 yn gweithio gyda’r diwydiant gweithgynhyrchu ar draws Cymru i ysgogi twf trawsffurfiol a chynaliadwy drwy hwyluso’r gwaith o ddatblygu a mabwysiadu technolegau uwch a chael gwared â’r risgiau cysylltiedig, drwy gynyddu gallu’r technolegau hyn i gystadlu a sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol, a thrwy alluogi lefelau uwch o arloesi busnes mewn prosesau gweithgynhyrchu yn y dyfodol. Mae’r prosiect eisoes wedi cael ei roi ar waith yng ngogledd a gorllewin Cymru a Chymoedd De Cymru ers 2015 ac yn ddiweddar mae wedi elwa ar gyllid ychwanegol gan yr UE i gefnogi busnesau ar draws dwyrain Cymru, gan gynnwys Caerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Sir Fynwy, Powys, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae Dr Gareth Stockman yn Brif Swyddog Gweithredol Marine Power Systems Ltd (MPS), cwmni datblygu technoleg ynni’r tonnau a leolir yn Ne Cymru. Meddai: “Rydym yn cyrraedd rhai cerrig milltir cyffrous yn natblygiad ein technoleg, yn benodol wrth greu prototeip WaveSub graddfa chwarter. Rydym wrth ein boddau ein bod yn gweithio gydag ASTUTE 2020 ar y gwaith modelu cyfrifiadurol uwch ar gyfer y fflôt.

Gyda’r sgiliau nodedig a’r cyfleusterau sydd ar gael gan ASTUTE 2020 ar y campws newydd ar y Bae, yn ogystal â’i athroniaeth o arloesi a datblygu, rydym yn sicr y bydd yr ymchwil sy’n cael ei gwneud gan ASTUTE 2020 yn cadarnhau bod ein cynllun ar gyfer fflôt esgyn pŵer yn hollol addas i’w ddiben.”

Ymhlith y prosiectau mawr eraill ym Mhrifysgol Abertawe sydd wedi elwa ar gyllid o’r UE y mae:

 

  • Prosiect BUCANIER (Adeiladu Clystyrau a Rhwydweithiau mewn Arloesedd, Menter ac Ymchwil) sy’n gynllun newydd a gefnogir gan €2.9m o gronfeydd gan yr UE trwy raglen Cymru-Iwerddon i gefnogi oddeutu 120 o fusnesau bach yng Nghymru ac Iwerddon yn y sectorau bwyd a diod, gwyddorau bywyd ac ynni adnewyddadwy.
  • Prosiect CALIN: rhwydwaith gwyddor bywyd Cymru-Iwerddon gwerth €11.96M wedi’i ariannu gan yr UE, dan arweiniad Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.
  • Canolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC a ariennir gan EPSRC, Innovate UK (Bwrdd Strategaeth Technoleg gynt) ac sydd wedi’i hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, cartref i SPECIFIC, sef consortiwm academaidd a diwydiannol dan arweiniad Prifysgol Abertawe gyda BASF, NSG Pilkington, Tata Steel a Phrifysgol Caerdydd fel partneriaid strategol.  
  • Mae partneriaeth Arweinyddiaeth ION, a arweinir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor, wedi’i chefnogi gan £2.7m gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a’i nod yw helpu perchenogion a rheolwyr busnesau i fagu sgiliau arwain a rheoli newydd a gyrru cynhyrchiant a throsiant mewn busnesau bach a chanolig (BBaChau), yn ogystal â mewn sefydliadau mwy.
  • Mae Academi Defnyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe’n brosiect gwerth £14m a ariennir gan yr UE a fydd yn datblygu’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr yn sector peirianneg Cymru ac yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau technegol a rheoli arbenigol i’r sector peirianneg a defnyddiau uwch.
  • Mae AMBER, a arweinir gan Brifysgol Abertawe, yn brosiect ymchwil gydweithredol amlddisgyblaeth gwerth €6.2 miliwn a fydd yn darparu’r Atlas cynhwysfawr cyntaf o rwystrau afon ar draws Ewrop a bydd yn cynnig dulliau rheoli rhwystrau y gellir eu haddasu i ailgysylltu afonydd Ewrop. 

Meddai Ceri Jones, Cyfarwyddwr Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi: “Wrth i ni ddathlu Diwrnod Ewrop, mae’n bwysig cydnabod gwerth y cyllid o’r UE a phartneriaethau parhaus â’r UE i Brifysgol Abertawe. 

“Mae cydweithrediadau rhyngwladol yn rhan annatod o ddatblygu’r timoedd ymchwil gorau i fynd i’r afael â’r heriau byd-eang mwyaf brys ac mae Prifysgol Abertawe wedi ymrwymo i barhau i weithio’n agos â’n cydweithwyr Ewropeaidd yn y dyfodol.”